Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar gyfer agor ysgol newydd yn Llanfair DC.
Bydd yr ysgol eglwys ddwyieithog newydd yn agor ar ôl hanner tymor Chwefror pan fydd y disgyblion yn symud o’r safle presennol ar Ffordd Wrecsam i’r safle newydd ar dir gyferbyn â Bron y Clwyd.
Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r ysgol i drefnu’r diwrnod agored a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at rieni, tra bydd staff wrth law yn ystod y diwrnod agored.
Ariennir y prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.
Wynne Construction o Fodelwyddan yw’r prif gontractwr ar gyfer y prosiect.
Dywedodd Helen Oldfield, pennaeth Ysgol Llanfair DC: “Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud yn yr ysgol newydd ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod cyntaf yn ein hadeilad newydd sbon.
“Bydd yr ysgol newydd yn trawsnewid yr amgylchedd addysgu a dysgu a fydd yn caniatáu i ddisgyblion ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn nodi cyfnod newydd i genhedlaeth o ddisgyblion yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn elwa o’r cyfleusterau newydd o’r safon orau am nifer o flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Hoffwn ddiolch i aelodau o’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth gyda chynnydd y prosiect hwn ac rwy’n falch iawn y bydd disgyblion a staff yn gallu symud i’w hysgol newydd sbon yn fuan.
“O ganlyniad i’r gweithio mewn partneriaeth rydym wedi creu ysgol a fydd yn sicrhau y bydd gan ddisgyblion y cyfle gorau i gyflawni eu potensial llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Mae hyn yn enghraifft arall o ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg ac mae’n rhan o’n gwaith i sicrhau pobl ifanc yn cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd.”
Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein boddau y bydd yr Ysgol Eglwys ddwyieithog newydd yn Llanfair DC yn agor ei drysau i ddisgyblion ar ôl hanner tymor Chwefror. Mae hyn wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy yn cydweithio i gyflawni’r gorau ar gyfer y plant. Bydd yr adnodd newydd ardderchog hwn yn gwella darpariaeth ddwyieithog yn fawr ar gyfer pentref Llanfair DC a’r ardaloedd cyfagos.”