Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael eu cyflwyno i holl ddisgyblion

O fis Ionawr ymlaen, bydd y Cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael ei gyflwyno yn gynt na’r disgwyl i bob disgybl blwyddyn 5 a 6 yn Sir Ddinbych, sy’n golygu y gall pob disgybl ysgol gynradd yn Sir Ddinbych gael prydau ysgol am ddim.

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) gynlluniau i gynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd. Ers mis Medi 2022, mae cynnig Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn Sir Ddinbych wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ddisgyblion o ddosbarth Derbyn i Flwyddyn 4.

Yn dilyn cyfnod o waith ailwampio cyfleusterau cegin a bwyta ar draws y Sir, bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno’n gynt na’r disgwyl i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 o’r 8 Ionawr 2024 ymlaen.

O ddechrau tymor y Gwanwyn, gofynnir i holl ddisgyblion yn ysgolion cynradd Sir Ddinbych bob dydd os hoffent gael pryd ysgol ai peidio. Gallent gael eu cynnwys neu dynnu allan heb orfod rhag archebu a bydd y pryd yn cael ei ddarparu am ddim. Os yw disgyblion eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim a/neu unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig eraill, ni chaiff y rhain eu heffeithio.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n wych bod yr Awdurdod yn gallu cyflwyno’r cynnig Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn gynt na’r disgwyl ar gyfer holl ddisgyblion hyd at Flwyddyn 6 gyda’r cyllid hwn, ynghyd ag ymroddiad ein staff a chefnogaeth gan gontractwyr lleol.

Mae prydau ysgol yn hanfodol i ddysgu a datblygiad plentyn, ac rwy’n falch iawn bod pob disgybl ysgolion cynradd o fewn Sir Ddinbych yn cael cynnig y prydau ysgol am ddim.”

Gadael sylw