Ymgynghori ar gynnig adeilad Ysgol Plas Brondyffryn

Mae ymgynghoriad ar gynigion i greu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn.

Mae Ysgol Plas Brondyffryn yn ysgol 3-19 sy’n darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth. Y cynnig yw dod â 3 o’r 4 safle presennol yn Ninbych at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol a chynyddu capasiti’r ysgol o 116 i 220 wrth i’r galw am y lleoedd arbenigol hyn gynyddu.

Y safle arfaethedig ar gyfer yr adeilad newydd yw’r cae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol Uwchradd Dinbych. Mae’n eiddo i’r Cyngor. Mae’r cynnig yn dal i fod yn amodol ar gyflwyno cais cynllunio a bod cyllid ar gael.

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gweld y cynlluniau fynychu sesiwn galw heibio ddydd Mercher 28ain Medi 4-7pm yn Ysgol Plas Brondyffryn, safle Stryd y Parc, Dinbych. Bydd y cynlluniau yn cael eu harddangos a bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae’r datblygiad arfaethedig hwn yn rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu gan Lywodraeth Cymru ac mae £23.8 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer y datblygiad hwn.

“Mae’r Cyngor hefyd wedi gwneud ymrwymiad i ddarparu 25% o gost y prosiect, yn amodol ar achosion busnes cymeradwy ac mae’n amlygu’r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i wella cyfleusterau addysg ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

“Mae yna nifer o gamau i fynd trwyddynt, gan gynnwys yr ymgynghoriad cyn-cynllunio yma, cyflwyno’r cais cynllunio, cais i gyhoeddi hysbysiad statudol i gynyddu capasiti’r ysgol a chais ffurfiol am gyllid.

“Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gyflwynir fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-cynllunio hwn”.

Mae’r cynlluniau a’r ffurflen ar-lein ar gyfer sylwadau ar gael yma.

Cynigion ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn

Mae cynigion yn cael eu paratoi ar gyfer cyfleusterau newydd yn Ysgol Plas Brondyffryn yn Ninbych, sy’n darparu ar gyfer disgyblion sydd â Chyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth o 3-19 oed.

Gallai’r cynigion fod yn rhan o’r don nesaf o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion trwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn flaenorol y Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain ganrif.

Bydd y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru o’r achos busnes, ynghyd â chaniatâd cynllunio.

Fel rhan o’r cynnig, bu i Gyngor Sir Ddinbych benodi Wates Construction i wneud cam 1 dyluniad prosiect yr adeilad newydd.

Y cynnig yw dod a tri o bedwar safle’r ysgol ynghyd mewn un adeilad newydd sbon a adeiladir ar y maes chwarae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych.

Bydd y cynnig yn golygu y bydd yr holl ddisgyblion a staff yn dod ynghyd mewn cyfleuster pwrpasol newydd sbon a fydd yn sicrhau bod gan yr ysgol amgylchedd dysgu hyblyg i alluogi’r ysgol i gyflwyno’r gofynion cwricwlaidd sy’n newid i fodloni anghenion y disgyblion a’u helpu i gyrraedd eu potensial llawn.

Bydd disgyblion Ysgol Plas Brondyffryn yn parhau i gael darpariaeth breswyl yng Ngherddi Glasfryn.

Dywedodd David Price, pennaeth Ysgol Plas Brondyffryn: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r ysgol wrth i ni ddod a’r holl ddysgwyr a’r staff ynghyd ar un safle i gyfleuster pwrpasol a fydd yn cynnig rhywbeth arbennig iawn i’n disgyblion.

“Mae cyfarfodydd cychwynnol gyda Wates a’r Awdurdod Lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae’r staff a minnau yn edrych ymlaen at weld sut bydd y cynlluniau yn datblygu a’r gwaith yn cychwyn ar y safle.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Ar ôl cwblhau Band B yn llwyddiannus yn Sir Ddinbych a welodd dros £90 miliwn o fuddsoddiad mewn adeiladau ysgolion ac a oedd o fudd i fwy na 4,300 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych, rwy’n falch iawn o weld gwaith ar ein cam nesaf o adeiladu ysgol newydd yn dechrau.

“Mae’r prosiect hwn yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor ac yn enghraifft arall o ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg ac mae’n rhan o’n gwaith i sicrhau pobl ifanc yn cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd.”