Disgyblion Ysgol Bro Cinmeirch yn elwa o welliannau

Mae disgyblion ysgol yn Sir Ddinbych yn elwa o gyfleusterau addysgu newydd yn dilyn estyniad i ystafell ddosbarth a gwelliannau yn yr ysgol.

Mae ystafell ddosbarth newydd a thoiledau wedi eu hadeiladu yn Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr ac mae gwelliannau hefyd wedi eu gwneud i ddosbarthiadau.

Cafodd cwmni Adever Construction, sydd wedi ei leoli yn Ninbych, ei benodi gan Gyngor Sir Ddinbych fel y contractwr ar gyfer y cynllun.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc y Cyngor a chyn ddisgybl yn yr ysgol: “Fel un o’r disgyblion cyntaf i fynychu’r ysgol yn ôl yn 1987 fe alla i weld sut y bydd y cyfleusterau hyn sydd wedi eu gwella yn rhoi gwell profiad dysgu i ddisgyblion.

“Mae’r gwaith hwn wir yn dangos ein hymrwymiad i’r ysgol hon a sut y mae’r ysgol wedi tyfu dros y blynyddoedd.

“Mae sicrhau fod pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yn un o’n blaenoriaethau ac mae’r gwaith hwn yn ategu’r buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud o ran adeiladu ysgolion newydd drwy’r sir gyfan.”

Cafodd y dosbarth newydd a’r toiledau eu hariannu drwy arbedion a wnaed fel rhan o’r gostyngiad yn y defnydd o leoedd dysgu dros dro ar draws Sir Ddinbych.

Meddai Sian Griffiths, pennaeth dros dro yn Ysgol Bro Cinmeirch: “Mae’r ysgol a’r corff llywodraethu yn hapus iawn â’r gwelliannau.

“Mae’r gwaith yn darparu gwell amgylchedd dysgu i ddisgyblion, a bydd disgyblion yn elwa o hynny am flynyddoedd i ddod. Hoffwn ddiolch i’r tîm prosiect ac Adever Construction am eu gwaith caled ar y prosiect.”

Mae’r prosiect hwn yn ychwanegol i’r gwaith fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen honno wedi darparu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, estyniad a gwaith adnewyddu yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy a safle ar y cyd ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.

Mae gwaith arall fel rhan o’r rhaglen yn cynnwys estyniad saith ystafell ddosbarth a gwaith adnewyddu yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn yn ogystal ag estyniad tair ystafell ddosbarth a gwaith adnewyddu yn Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd.

Haf prysur yn Ysgol Bro Cinmeirch i wella’r amgylchedd dysgu

Mae’r gwaith wedi dechrau dros wyliau’r haf i wella’r amgylchedd dysgu a’r cyfleusterau yn Ysgol Bro Cinmeirch. Bydd y cynllun yn darparu dosbarth newydd a fydd yn cymryd lle yr ystafell gymunedol sydd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, toiledau newydd i blant Cyfnod Sylfaen a gwelliannau i’r dosbarthiadau cyfredol.

Cwmni Adever Construction o Ddinbych sydd wedi eu penodi fel contractwr y cynllun, sydd wedi eu croesawu gan rieni, staff ar gymuned.

Dywed Sian Griffiths , Pennaeth dros dro Ysgol Bro Cinmeirch “Mae’r ysgol a’r llywodraethwyr yn hapus iawn gyda’r gwelliannau sydd yn cymryd lle ar hyn o bryd. Bydd y gwaith y darparu disgyblion gyda amgylchedd dysgu gwell a fydd yn elwa myfyrwyr i’r dyfodol. Hoffwn ddiolch i’r Tîm Prosiect ynghyd a Adever Construction am eu gwaith caled ar y prosiect a rydym yn edrych ymlaen i ddefnyddio y cyfleusterau newydd pan fydd wedi ei gwblhau.”

Bydd yr adeilad cyfredol yn cael ei drosglwyddo yn ôl i ddwylo’r ysgol yn barod i ddechrau’r tymor, gyda’r dosbarth newydd yn barod erbyn canol mis Hydref.

Mae’r estyniad ar toiledau newydd yn cael eu cyllido drwy arbedion sydd wedi eu gwireddu gan leihau y defnydd o gabannau dros dro ar draws Sir Ddinbych. Mae cynnydd y cynllun hwn yn unol a’r Cynllun Corfforaethol y Cyngor i ddarparu cyfleusterau ysgol modern sydd yn gwella ymhellach profiad dysgu disgyblion.