Golau gwyrdd ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Carreg Emlyn

20180326_152838

Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yng Nghlocaenog wedi cymryd cam sylweddol ymlaen – gyda Chyngor Sir Ddinbych bellach yn berchnogion balch y tir sydd ei angen ar gyfer y datblygiad.

Ar hyn o bryd mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle: yng Nghlocaenog a Chyffylliog. Nawr mae’r gwerthiant wedi’i lofnodi a’i selio, mae’n golygu y gall gwaith adeiladu ar adeiladu’r ysgol newydd ar safle Clocaenog ddechrau dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Ysgolion a Rhaglen Gyfalaf Addysg yr 21ain Ganrif. Wynne Construction yw’r prif gontractwyr a benodwyd i wneud y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn newyddion ardderchog i ddisgyblion yng Ngharreg Emlyn ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn byw yng Nghlocaenog, Cyffylliog a’r ardaloedd cyfagos.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y newyddion wedi bod yn dod yn amser hir yn cyrraedd ond rydym yn cyflawni ein haddewid i fwrw ymlaen â’r cynlluniau uchelgeisiol hyn. Mae’r buddsoddiad gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r ymrwymiad i wella cyfleusterau i’n plant a’n pobl ifanc a’n cenedlaethau o blant yn fuan yn elwa ar gyfleusterau addysgol o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae hwn hefyd yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.

“Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Carreg Emlyn ac rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion gyda’r ysgol a’r gymuned ehangach”.

Ysgol Carreg Emlyn – cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd gam yn nes

Ysgol Carreg Emlyn

Mae dyluniadau manwl ar gyfer yr ysgol newydd sbon yng Nghlocaenog yn cael eu llunio ar hyn o bryd.

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi cymeradwyo codi adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn gweithredu ar ddau safle; yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

Mae staff a chynrychiolwyr yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda’r tîm prosiect i ddatblygu’r dyluniadau cychwynnol ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddyluniadau mewnol yr adeilad.

Bydd y dyluniadau terfynol yn cael eu cymeradwyo yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn y gwanwyn.

Wynne Construction yw’r prif gontractwr i ddatblygu’r ysgol a’r cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Meddai’r Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer adeilad newydd Ysgol Carreg Emlyn ac rwyf yn falch o glywed bod y gwaith cynllunio’n mynd rhagddo’n dda.

“Mae’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi i gael amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych. Mae llawer iawn o fuddsoddi wedi bod drwy’r rhaglen gyfalaf a bydd hynny’n caniatáu i’n plant ni gael gwell amgylchedd i ddysgu. Mae datblygiad Carreg Emlyn yn un o gyfres o adeiladau newydd arfaethedig yn Sir Ddinbych, ac rwyf yn siŵr y bydd cymunedau Clocaenog a Chyffylliog a’r fro wrth eu bodd gyda’r adeilad newydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at gyfnod prysur iawn wrth i’r cynlluniau gael eu rhoi ar waith i godi adeilad ysgol newydd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.”

Rhagwelir y bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau erbyn gwanwyn 2019.

Caniatâd ar gyfer ysgol newydd yng Nghlocaenog

YCE Proposed Elevation

Cymeradwywyd cynlluniau yn unfrydol ar gyfer adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Carreg Emlyn gan aelodau o Bwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych heddiw (dydd Mercher).

 

Agorwyd drysau’r ysgol fro ym mis Medi 2014 ar ôl cau Ysgol Cyffylliog ac Ysgol Clocaenog. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy eu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mae Ysgol Carreg Emlyn wedi bod yn gweithredu ar y ddau safle, Clocaenog a Chyffylliog, yn y tymor byr, gyda’r bwriad o agor adeilad newydd ar safle Clocaenog.

 

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio gyda man gollwng teithwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Blant a Phobl ifanc: “Mae darparu adeilad addas i’r diben a fydd yn gwella’r cynnig addysgol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae ein plant eisiau ac yn haeddu’r cyfleusterau gorau yr ydym ni’n gallu eu cynnig.

“Nid yw’r cyfleusterau presennol yn addas i bwrpas. Nid ydynt yn cynnwys ffreutur, gyda’r plant yn bwyta yn y dosbarthiadau ac nid oes neuaddau, gyda gwasanaethau yn cael eu cynnal yn swyddfa’r pennaeth.

“Mae’r cynllun ysgol wedi derbyn cefnogaeth wych gan yr ardal leol a chymuned yr ysgol, ond rydym yn cydnabod y bu gwrthwynebiad gan rai i leoliad yr adeilad ac fe amlygwyd y rhain yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor Cynllunio

“Ond rŵan, mae’n bwysig ein bod yn edrych ymlaen ac yn gwireddu’r cynlluniau hyn. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn i’r disgyblion presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Diweddariad ar Brosiect Ysgol Carreg Emlyn

Nos Fawrth y 8fed o Fawrth cafodd staff, disgyblion, rhieni ac aelodau o’r gymuned Ysgol Carreg Emlyn gyfle i weld cynlluniau o’r adeilad ysgol newydd am y tro cyntaf. Yn dilyn y digwyddiad bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried yr adborth cyn cyflwyno’r cais cynllunio.

Mae lluniau o’r cynlluniau isod:

Dilynwch y blog am ddiweddariadau pellach.

Ysgol Carreg Emlyn

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llywodraethwyr Ysgol Carreg Emlyn wedi bod yn adolygu dyluniadau cychwynnol ar gyfer yr ysgol newydd. Maent wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tîm dylunio ac wedi rhoi adborth, sydd wedi caniatáu i’r cynlluniau gael eu diwygio yn unol â’r hyn y mae’r ysgol ei angen ac eisiau.
Bydd adeilad yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu ym mhentref Clocaenog a bydd yn galluogi’r ysgol i gael ei lleoli ar un safle. Bydd gan yr adeilad newydd bedwar ystafell ddosbarth, neuadd, ystafell gymunedol, lle ar gyfer gwaith mewn grwpiau bach a gofod ategol ar gyfer staff.

Ysgol Carreg Emlyn

Bu i Ysgol Carreg Emlyn agor ei drysau am y tro cyntaf i ddisgyblion ar y 3ydd o Fedi 2014. Mae’r ysgol wedi ei chreu yn dilyn uno Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog a oedd un o argymhellion yr adolygiad i addysg cynradd ardal Rhuthun.

Mae’r disgyblion yn cael eu addysgu ar ddau safle gyda’r babanod wedi eu lleoli yng Nghyffylliog ac y cynradd wedi eu lleoli yng Nghlocaenog. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi y drefn dosbarthiadau gan ddarparu cludiant rhwng y ddau safle.

Pan gyhoeddwyd y cynlluniau bu i rai rhieni ofni y byddai eu plant yn dioddef o gael eu gwahanu o eu brawd neu chwaer ond meddai Einir Jones, Pennaeth Ysgol Carreg Emlyn ei bod yn hapus iawn gyda faint mor lyfn y mae’r newidiadau wedi bod, “Mae’r plant yn mwynhau bod yn ran o’r ysgol newydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd, er roedd y mwyafrif o’r plant eisioes yn adnabod eu gilydd. Mae’r drefn bysus newydd yn gweithio yn dda iawn a mae’r plant yn hapus iawn ac yn hoffi eu gwisg ysgol newydd”.

Cyfnod Sylfaen

Cyfnod Sylfaen, Safle Cyffylliog

Y cam nesaf ydi datblygu Achos Busnes fydd yn cynnwys opsiynau i adeiladu ysgol newydd. Byddai unrhyw adeilad ysgol newydd yn disodli y ddau safle presennol. Mae gwaith ar yr achos busnes yn mynd rhagddo a disgwylir y byddai’n cael ei gyflwyno i Aelodau Etholedig cyn diwedd 2014.

Ysgol Carreg Emlyn

Yn dilyn cyfarfod o’r Corff Llywodraethwyr Dros Dro ar y 24ain o Fehefin 2014, rydym yn gallu cadarnhau mai enw’r Ysgol Ardal Newydd ar gyfer Clocaenog a Cyffylliog fydd YSGOL CARREG EMLYN.

Mae plant y ddwy ysgol wedi bod yn rhan or broses i ddewis yr enw.

Mae cysylltiad hanesyddol a daearyddol cryf i’r enw. Mae Beddrod Emlyn o’r oes efydd wedi ei leoli yng nghrombil Coedwig Clocaenog. Cymerwyd Carreg Emlyn oddi yno i Blasdy Pool Parc ond bellach mae’r garreg yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams (Aelod Arweiniol dros Addysg a Dirprwy Arweinydd): “Rwyf yn hapus iawn gyda’r enw ar gyfer yr ysgol newydd. Mae Carreg Emlyn yn gyfarwydd yn lleol a bydd yn darparu hunaniaeth gref i’r ysgol newydd”.

YCE logo