Mae llwybr troed newydd sbon sy’n cysylltu dwy ysgol newydd sbon ar gyrion Rhuthun i ganol y dref wedi’i agor i’r cyhoedd.
Roedd y gwaith yn rhan o brosiect Rhan Un prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer Rhuthun, gydag adeiladu llwybr cerdded a beicio a rennir rhwng Ffordd Dinbych a maes parcio Caeau Coffa Rhuthun. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys dolen o’r llwybr i ystad dai Glasdir, gerllaw Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.
Bydd Rhan Dau, a fydd yn gweld y llwybr yn cael ei ymestyn ar draws Stryd y Parc, trwy faes parcio Stryd y Parc ac ymlaen i Stryd Clwyd, yn cychwyn yn ystod y misoedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi bod mewn sefyllfa i glirio’r rhan hon o lwybr troed, er mwyn caniatáu i blant a’u rhieni a gwarcheidwaid lwybr diogel sy’n cysylltu’r ysgolion tuag at canol y dref. Rydym wedi ymgynghori a gwrando ar farn y cyhoedd a chael y gwaith ar waith cyn gynted ag y bo modd.
“Nawr bod y cam cyntaf wedi’i gwblhau, ein sylw fydd ymestyn y llwybr diogel i’r ysgol yn agosach at ganol y dref, gan ddarparu diogelwch ychwanegol i’r rhai a fydd yn defnyddio’r llwybr”.