Diwrnod cyntaf yn yr ysgol i ddisgyblion ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd

Mae disgyblion Llanfair Dyffryn Clwyd wedi dechrau gwersi yn eu hysgol newydd sbon gwerth £ 5.3 miliwn am y tro cyntaf.

 

Agorodd yr ysgol Eglwys ddwyieithog newydd gyferbyn â Bron y Clwyd ar Chwefror 26 ar ôl symud o’r adeilad blaenorol ar Ffordd Wrecsam.

Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen ysgolion ac addysg yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.

Mae’r ysgol yn darparu ystafelloedd dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, ardal fyfyrio, neuadd, ystafell gymunedol, mannau chwarae allanol, mynediad i gerbydau newydd a pharcio ceir gyda man gollwng.

Cwmni Wynne Construction o Fodelwyddan oedd prif gontractwr y prosiect.

Dywedodd Helen Oldfield, Pennaeth: “Mae’r ysgol a’r corff llywodraethol yn hapus iawn gyda’r ysgol newydd. Mae’r agoriad heddiw yn rhagflaenu cyfnod newydd i genhedlaeth o ddisgyblion yn Llanfair Dyffryn Clwyd.

“Mae’r gwaith yn rhoi amgylchedd dysgu anhygoel i’r disgyblion, y bydd y myfyrwyr yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod.

“Hoffwn ddiolch i dîm y prosiect ac i Wynne Construction am eu gwaith caled ar y prosiect.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Ymgysylltu â’r cyhoedd: “Roedd gweld ymateb y plant i’w hysgol newydd yn wych. Maent wrth eu boddau gyda’u hysgol a fydd yn rhoi amgylchedd o’r radd flaenaf iddynt fel y gallant gael y gorau o’u haddysg.

“Diolch i weithio mewn partneriaeth mae’r disgyblion yn cael y cyfle i gyflawni eu llawn botensial yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dyma enghraifft arall eto o ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg ac mae’n rhan o’n gwaith i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. “

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein boddau bod yr ysgol Eglwys ddwyieithog newydd yn Llanfair DC wedi agor ei drysau. Mae hon wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gorau ar gyfer y plant. Bydd y cyfleuster newydd gwych hwn yn gwella darpariaeth ddwyieithog y pentref a’r ardaloedd cyfagos yn sylweddol. “

 

Cyfri’r diwrnodau tan agor Ysgol Llanfair DC newydd

Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar gyfer agor ysgol newydd yn Llanfair DC.

Bydd yr ysgol eglwys ddwyieithog newydd yn agor ar ôl hanner tymor Chwefror pan fydd y disgyblion yn symud o’r safle presennol ar Ffordd Wrecsam i’r safle newydd ar dir gyferbyn â Bron y Clwyd.

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r ysgol i drefnu’r diwrnod agored a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at rieni, tra bydd staff wrth law yn ystod y diwrnod agored.

 

 

Ariennir y prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.

Wynne Construction o Fodelwyddan yw’r prif gontractwr ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Helen Oldfield, pennaeth Ysgol Llanfair DC: “Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud yn yr ysgol newydd ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod cyntaf yn ein hadeilad newydd sbon.

“Bydd yr ysgol newydd yn trawsnewid yr amgylchedd addysgu a dysgu a fydd yn caniatáu i ddisgyblion ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn nodi cyfnod newydd i genhedlaeth o ddisgyblion yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn elwa o’r cyfleusterau newydd o’r safon orau am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Hoffwn ddiolch i aelodau o’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth gyda chynnydd y prosiect hwn ac rwy’n falch iawn y bydd disgyblion a staff yn gallu symud i’w hysgol newydd sbon yn fuan.

“O ganlyniad i’r gweithio mewn partneriaeth rydym wedi creu ysgol a fydd yn sicrhau y bydd gan ddisgyblion y cyfle gorau i gyflawni eu potensial llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Mae hyn yn enghraifft arall o ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg ac mae’n rhan o’n gwaith i sicrhau pobl ifanc yn cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd.”

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein boddau y bydd yr Ysgol Eglwys ddwyieithog newydd yn Llanfair DC yn agor ei drysau i ddisgyblion ar ôl hanner tymor Chwefror. Mae hyn wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy yn cydweithio i gyflawni’r gorau ar gyfer y plant. Bydd yr adnodd newydd ardderchog hwn yn gwella darpariaeth ddwyieithog yn fawr ar gyfer pentref Llanfair DC a’r ardaloedd cyfagos.”

Mae Ysgol Llanfair DC yn symud cam arall yn nes at ei gwblhau

Mae’r gwaith o adeiladu  ysgol newydd yn Llanfair Dyffryn Clwyd yn cyrraedd carreg filltir arall yr wythnos hon wrth i waith mewnol ddod i ben.

Mae’r ysgol eglwys ddwyieithog newydd yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair. Fe’i hariennir ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.

 Bydd yr adeilad newydd yn gweddnewid yr amgylchedd dysgu ac addysgu ar gyfer disgyblion ac athrawon Ysgol Llanfair. Bydd y symudiad yn golygu eu bod yn gadael eu prif adeiladau ac ystafelloedd symudol cyfyng ac yn symud i gyfleusterau o’r radd flaenaf lle bydd ganddynt brif neuadd am y tro cyntaf a fydd yn cynnwys man bwyta i ffwrdd o’u hystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd dosbarth llachar ac awyrog gyda mynediad uniongyrchol i’r ardaloedd allanol.

 Wynne Construction o Bodelwyddan yw’r prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu a ddechreuodd ar y safle ym mis Mehefin 2018.

 Cam nesaf y gwaith fydd ymgymryd â chysylltiad draeniad dŵr budr a dŵr wyneb â’r ysgol newydd a chwblhau gwaith ar yr ardaloedd allanol, gan gynnwys ffurfio’r brif fynedfa a’r maes parcio newydd. Unwaith y bydd materion ynglŷn â’r draeniad wedi eu datrys, bydd y Cyngor mewn sefyllfa i gadarnhau pryd y bydd yr ysgol yn symud i mewn i’r safle newydd.

 Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Aelod Arweiniol dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Mae hwn yn fuddsoddiad y mae mawr angen amdano. Mae’r cyfleusterau ysgol bresennol wedi’u dyddio ac mae angen eu moderneiddio’n ddifrifol, mae hyn yn dangos ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg, gan sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu potensial llawn ”.

“Cam nesaf y gwaith yw’r darn olaf o’r jig-so ac rydym yn edrych ymlaen at gwblhau’r gwaith hwn ac agor yr ysgol newydd”.

 Dywedodd Geraint Jones, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanfair DC: “Mae’r adeilad yn mynd rhagddo’n dda ac mae’r cyfleusterau newydd yn edrych yn wych. Rwy’n edrych ymlaen at yr ymweliadau arfaethedig i bob disgybl weld yr adeilad newydd cyn diwedd y tymor. Mae pawb yn gyffrous iawn am gwblhau’r ysgol newydd ac rydym yn edrych ymlaen at symud i’r safle newydd unwaith y bydd y gwaith sy’n weddill wedi’i gwblhau ”.

 Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym yn falch iawn fod yr Ysgol Eglwys ddwyieithog newydd yn Ysgol Llanfair DC wedi cyrraedd y garreg filltir hanfodol nesaf yn y prosiect. Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau camau olaf y gwaith ac mae’r ysgol yn symud i mewn i’w hadeilad newydd ”.

 

Disgyblion yn cael y cyfle i weld datblygiadau yn eu Hysgol newydd.

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Carreg Emlyn wedi cael y cyfle i weld eu hysgolion newydd tra bo’r gwaith adeiladu yn parhau ar y safleoedd.

Mae ysgol eglwys ddwyieithog newydd, mewn partneriaeth ac Esgobaeth Llanelwy, yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn a Bryn Clwyd, Llanfair DC tra yng Nghlocaenog mae ysgol un safle newydd yn cael ei hadeiladu ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn i gymryd lle’r safleoedd presennol yng Nghyffylliog a Clocaenog.

Mae’r ddwy Ysgol yn cael eu cyllido drwy Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth a buddsoddiad Cyngor Sir Ddinbych, sydd yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn mewn ysgolion yn Sir Ddinbych.

Wynne Construction o Fodelwyddan yw’r prif gontractwr sydd wedi eu penodi i weithio ar y ddau safle.

Dywed Alison Hourihane, Rheolwr Datblygu Busnes a Chymunedau, Wynne Construction: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu disgyblion i ymweld a’r safleoedd yn Llanfair DC a Clocaenog. Mae ymweld wedi eu darparu a cyfle i ddod i arfer a’u hysgolion newydd a’u hamgylchedd. Yn ystod yr ymweliad buom yn edrych ar y cynlluniau a dysgu am y sgiliau sydd yn cael eu defnyddio wrth adeiladu. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i weld y gweithlu yn bwrw ymlaen a’r gwaith.”

Disgwylir i’r ddwy ysgol agor yn ystod tymor yr haf 2019.

Gwaith yn mynd yn ei flaen mewn dwy ysgol yn Sir Ddinbych

Mae disgyblion wedi bod yn gadael eu hôl ar ddwy ysgol newydd yn Sir Ddinbych, canlyniad buddsoddi bron i £10 miliwn mewn addysg wledig yn y sir.

Bu myfyrwyr Ysgol Carreg Emlyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn cymryd rhan mewn seremonïau llofnodi paneli wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn y ddwy ysgol.

Cawsant gyfle i lofnodi paneli sy’n rhan o wead yr adeiladau newydd.

Mae ysgol ddwyieithog newydd yr eglwys yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy, ac yng Nghlocaenog fydd safle newydd Ysgol Carreg Emlyn.

Ariennir y ddwy ysgol drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Roedd hi’n galonogol gweld disgyblion yn y ddwy ysgol yn dangos cymaint o ddiddordeb yn eu hadeiladau newydd.

“Mae’n un o flaenoriaethau’r Cyngor i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau fod ganddynt ysgolion modern sy’n hybu eu dysg. Mae’r ddwy ysgol hon yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych.

“Gallwn weld fod y gwaith yn dod ei flaen yn dda, ac rydym yn disgwyl i’r ddwy ysgol agor eu drysau erbyn yr haf nesaf.”

Y prif gontractwr a benodwyd i gyflawni’r gwaith yw Wynne Construction o Fodelwyddan.

Yn Ysgol Carreg Emlyn mae’r gwaith o osod y paneli strwythurol wedi’i gwblhau a bydd y ffenestri’n mynd i mewn yn yr wythnosau nesaf, cyn dechrau ar y gwaith y tu mewn.

Yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd dechreuodd y gwaith o osod y paneli strwythurol ddechrau mis Medi.

 

Carreg filltir arbennig i Ysgol Llanfair DC

Mae seremoni torri tir wedi nodi’r cam cyntaf o adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar dir cyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair gan ddefnyddio cyllid gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn ogystal â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o fuddsoddiad o dros £90 miliwn i ysgolion Sir Ddinbych o fewn rhaglen ehangach Ysgolion yr 21ain Ganrif a gyllidir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn ogystal a’r buddsoddiad mewn addysg Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol ar Addysg, Plant, Pobl Ifanc a’r Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

“Rydym wedi cydnabod bod y cyfleusterau presennol wedi dyddio a’u bod gwir angen moderneiddio.  Mae pryderon hefyd wedi codi am brinder maes parcio, ardaloedd staff, ardaloedd cyhoeddus a hygyrchedd i’r ysgol, sydd wedi’i leoli ar ffordd brysur yr A525 yng nghanol y pentref. Dyma’r rheswm bod y Cyngor, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi’n sylweddol yn y prosiect hwn ac rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn dechrau.

“Mae hyn yn datgan cyfnod newydd i genedlaethau o ddisgyblion yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac edrychwn ymlaen at weld cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cael eu datblygu ar y safle dros y misoedd nesaf”.

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy:: “Rydym yn hynod falch fod yr Ysgol Eglwys newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC wedi cyrraedd y garreg filltir arbennig yma o fewn y prosiect.  Rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Wynne Construction er mwyn darparu ysgol eglwys ddwyieithog yn ardal Rhuthun.”

Carreg filltir arwyddocaol wrth ddatblygu ysgol newydd

South Evevation

Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yn Llanfair Dyffryn Clwyd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen – gyda chwblhau’r pryniant tir ar gyfer datblygiad yr ysgol newydd.

Mae’r safle ysgol bresennol ar Ffordd Wrecsam yn Llanfair DC. Lleolir yr ysgol newydd yn agos ar safle mwy ym Mron y Clwyd. Nawr mae’r gwerthiant wedi’i lofnodi a’i selio, mae’n golygu y bydd gwaith o adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau yn ddiweddarach yr haf hwn.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Ysgolion a Rhaglen Gyfalaf Addysg yr 21ain Ganrif. Wynne Construction yw’r prif gontractwyr a benodwyd i wneud y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, “Rwyf wrth fy modd bod gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC. Mae Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn darparu amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf.

“Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau modern a chyfoes i’n plant a’n pobl ifanc a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i wireddu eu potensial.

“Bydd adeiladu cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC yn rhoi cyfle i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol, gan roi hwb i’r economi leol hefyd.”

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein bodd bod yr Ysgol Eglwys newydd yn Ysgol Llanfair DC wedi cyrraedd y garreg filltir hanfodol nesaf o fewn y prosiect. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i wella’r ddarpariaeth ddwyieithog yn ardal Rhuthun.”

Dywedodd y Pennaeth, Llinos Hughes: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Llanfair DC ac rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion hwn gyda’r disgyblion, y rhieni a’r gymuned ehangach.”

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Sir Ddinbych a’r contractwyr yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r prosiect fynd rhagddo”.

 

Golau gwyrdd ar gyfer adeilad newydd ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd

South Evevation

Mae cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yn Llanfair Dyffryn Clwyd wedi’u cymeradwyo gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych.

Pleidleisiodd yr Aelodau am y datblygiad yr ysgol gynradd ar dros hectar o dir, gan gynnwys ardaloedd chwarae allanol, ardal cynefin, creu mynedfa gerbyd newydd, parcio ceir gydag ardal ollwng, tirlunio, man biniau, LPG a thanciau chwistrellu a llwybrau ar gyfer cerddwyr .

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair gan ddefnyddio arian oraglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn ogystal â buddsoddiad gan  Gyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant, Pobl Ifanc a’r Iaith Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd bod y Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo’r cynnig cynllunio.

“Mae hyn yn caniatau i ni symud ymlaen gyda’r gwaith o adeiladu’r cyfleusterau newydd sbon.

“Mae’r  cyfleusterau presennol wedi dyddio ac mae angen dybyryd i foderneiddio. Mynegwyd pryder hefyd am ddiffyg parcio ceir, ardaloedd staff, mannau cyhoeddus a hygyrchedd i’r ysgol, sydd wedi’i leoli ar yr A525 prysur yng nghanol y pentref.

“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau’r broses o adeiladu’r cyfleuster sydd ei angen yn y pentref hwn ac y gall pobl ifanc, yn awr ac yn y dyfodol, elwa o’r cyfleusterau o’r radd flaenaf y maen nhw’n eu haeddu “.