Mae disgyblion Ysgol Carreg Emlyn wedi cael cyfle i ymweld â’u hysgol newydd gwerth £ 5miliwn wrth i waith gyrraedd y camau terfynol.
Mae adeilad ysgol newydd Ysgol Carreg Emlyn yn cael ei ddatblygu ar un safle newydd yn Nghlocaenog i gymryd lle’r safleoedd presennol yng Nghyffylliog a Clocaenog.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych drwy ei raglen ysgolion ar gyfer y 21ain ganrif a Llywodraeth Cymru gyda Wynne Construction y prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu.
Dywedodd Karen Evans, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor: “Mae hwn yn gyfle mor gyffrous i’r disgyblion weld drostynt eu hunain sut mae’r gwaith wedi datblygu.
“Mae’r disgyblion wedi ymweld â’r safle drwy gydol y prosiect, fel rhan o’n hymrwymiad i gynnwys disgyblion yn y datblygiad ac mae eu hymateb bob amser yn un o gyffro pur.
“Gyda’r gwaith i’r adeilad yn dod i’r camau olaf, rydym yn edrych ymlaen at agor yr ysgol newydd. Mae’r prosiect yn nodi buddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau addysg yn Sir Ddinbych, gan sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu potensial.
“Mae rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bobl ifanc yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae adeiladu ysgolion newydd yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw.”
Hyd yn hyn buddsoddwyd mwy na £ 90m mewn ysgolion newydd trwy raglen ysgolion y 21ain ganrif.
Dywedodd Alison Hourihane, Rheolwr Busnes a Datblygu Cymunedol Wynne Construction: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r plant i ymweld â’u hysgol newydd ac ymgyfarwyddo â’r adeilad a’i gyffiniau. Mae hyn yn dilyn ymweliadau blaenorol, lle buom yn edrych ar y cynlluniau adeiladu ac yn tynnu sylw at y mathau o sgiliau adeiladu a oedd ynghlwm wrth y gwaith adeiladu. Mae hyn wedi rhoi cipolwg i’r disgyblion ar y gwahanol gyfleoedd gyrfaol yn y maes adeiladu. “
Bydd disgyblion yn symud i’r safle newydd ym mis Mehefin ar ôl hanner tymor mis Mai.