Estyniad Ysgol Penmorfa

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar yr estyniad i’r cyfleuster gofal plant yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn penodiad llwyddiannus y contractwr adeiladu TG Williams, dechreuodd y gwaith ar yr estyniad ym mis Medi 2022 a bydd y cyfleuster yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023. Bydd yr estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol gael mynediad i’r cynllun gofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg ym Mhrestatyn.

Ymwelodd y Cyng Gill German Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd â Safle Ysgol Penmorfa i edrych ar y cynnydd a wnaed hyd yma.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German: “Mae ein darpariaeth Dechrau’n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych mor bwysig i gefnogi ein teuluoedd ac i roi’r dechrau mewn bywyd y maent yn ei haeddu i’n plant. Bydd yr estyniad hwn yn Ysgol Penmorfa yn cynyddu’r capasiti ar gyfer lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn yr ardal i ymestyn ein cynnig presennol. Mae hyn yn newyddion gwych i’r gymuned a bydd yn rhoi cyfle i fwy o blant fynychu addysg blynyddoedd cynnar o safon, a thrwy hynny eu paratoi’n well ar gyfer eu haddysg gynradd yn y dyfodol a thu hwnt. Mae’r adeilad yn mynd rhagddo’n dda iawn a bydd yn cynnwys cyfleusterau o ansawdd uchel er budd y plant a fydd yn mynychu. Rwy’n falch iawn o weld hyn yn digwydd ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y gwaith yn mynd rhagddo.”

Mae’r llun isod yn dangos y Cynghorydd Gill German a’r Dirprwy Bennaeth Mr Phil Nolan

Estyniad i gyfleuster Gofal Plant yn Ysgol Penmorfa

Mae gwaith wedi dechrau ar yr estyniad i’r cyfleuster gofal plant yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn penodiad llwyddiannus y contractwr adeiladu TG Williams, dechreuodd y gwaith paratoi ar gyfer yr estyniad ym mis Medi 2022 a dylai’r cyfleuster gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2023. Bydd yr estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol gael mynediad i’r cynllun Dechrau’n Deg gofal plant a ariennir ym Mhrestatyn.

Mae’r lluniau’n dangos y cynnydd hyd yma: