Ysgolion Rhuthun yn dathlu carreg filltir arbennig

Ymunodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn y dathliadau yn Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun wrth iddynt ddathlu carreg filltir arbennig yn eu hanes.

Agorwyd y ddwy ysgol yn swyddogol gan y Prif Weinidog mewn seremoni heddiw, ddydd Iau, Gorffennaf 4.

Symudodd cyfanswm o 428 o ddisgyblion i’r ysgolion newydd sbon, a leolir ar safle Glasdir ar gyrion Rhuthun ar Ebrill 10, 2018. Ariannwyd y prosiect £ 11.3 miliwn gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei raglen Ysgolion 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Rydym wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi gallu dod i rannu yn y diwrnod pwysig hwn gyda chymunedau ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos. Mae’n achlysur pwysig.

“Gwnaeth Sir Ddinbych, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, ymrwymiad i fuddsoddi mewn ysgolion a chyflwr adeiladau ysgolion ac mae hynny’n sicr wedi talu ar ei ganfed. Mae creu adeiladau newydd, addas at y diben ar gyfer y ddwy ysgol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’r cyfleusterau modern, modern sydd wedi’u hadeiladu ar safle Glasdir wedi disodli’r hen adeiladau blinedig ar yr hen safle ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein plant a’n pobl ifanc yn haeddu’r dechrau gorau posibl ac roeddem wrth ein bodd yn gwireddu’r freuddwyd o adeiladu ysgolion newydd sbon ar gyfer Pen Barras a Stryd y Rhos.

“Roedd adeiladu’r ysgolion newydd yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Rhuthun a bydd o fudd i ddisgyblion am genedlaethau i ddod. Rydym hefyd wedi gweld cyfanswm o £ 90miliwn o fuddsoddiad mewn ysgolion ar draws y sir, gan gynnwys adeiladau ysgol newydd sbon yn Ysgol Uwchradd y Rhyl / Tir Morfa, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Carreg Emlyn a dau arall yn cael eu hadeiladu yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Crist y Gair yn yn y Rhyl.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae wedi bod yn bleser ymweld ag ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos heddiw a gweld canlyniadau’r buddsoddiad mewn addysg. Mae ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru wedi elwa o fwy na £ 280m yn ystod cam cyntaf rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Ac mae mwy o fuddsoddiad i ddod drwy’r ail gam. Dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn adeiladau ysgol ers y 1960au ac mae wedi cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chymunedau. Mae’n rhywbeth y gall pawb fod yn falch ohono. Dymunaf y gorau i’r staff a’r disgyblion yma yn Rhuthun yn eu cyfleusterau newydd. ”

Y contractwyr oedd yn gyfrifol am adeiladu’r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos oedd Wynne Construction.

 

 

Diweddariad prosiect: Ysgol Carreg Emlyn

Dyma rai lluniau sy’n dangos cynnydd y prosiect o’n hymweliad diweddar i safle Ysgol Newydd Carreg Emlyn.

Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

 

Disgyblion yn cael y cyfle i weld datblygiadau yn eu Hysgol newydd.

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Carreg Emlyn wedi cael y cyfle i weld eu hysgolion newydd tra bo’r gwaith adeiladu yn parhau ar y safleoedd.

Mae ysgol eglwys ddwyieithog newydd, mewn partneriaeth ac Esgobaeth Llanelwy, yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn a Bryn Clwyd, Llanfair DC tra yng Nghlocaenog mae ysgol un safle newydd yn cael ei hadeiladu ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn i gymryd lle’r safleoedd presennol yng Nghyffylliog a Clocaenog.

Mae’r ddwy Ysgol yn cael eu cyllido drwy Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth a buddsoddiad Cyngor Sir Ddinbych, sydd yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn mewn ysgolion yn Sir Ddinbych.

Wynne Construction o Fodelwyddan yw’r prif gontractwr sydd wedi eu penodi i weithio ar y ddau safle.

Dywed Alison Hourihane, Rheolwr Datblygu Busnes a Chymunedau, Wynne Construction: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu disgyblion i ymweld a’r safleoedd yn Llanfair DC a Clocaenog. Mae ymweld wedi eu darparu a cyfle i ddod i arfer a’u hysgolion newydd a’u hamgylchedd. Yn ystod yr ymweliad buom yn edrych ar y cynlluniau a dysgu am y sgiliau sydd yn cael eu defnyddio wrth adeiladu. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i weld y gweithlu yn bwrw ymlaen a’r gwaith.”

Disgwylir i’r ddwy ysgol agor yn ystod tymor yr haf 2019.

Llwybr mwy diogel i’r ysgol ar gyfer disgyblion cynradd Rhuthun

Mae llwybr troed newydd sbon sy’n cysylltu dwy ysgol newydd sbon ar gyrion Rhuthun i ganol y dref wedi’i agor i’r cyhoedd.

Roedd y gwaith yn rhan o brosiect Rhan Un prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer Rhuthun, gydag adeiladu llwybr cerdded a beicio a rennir rhwng Ffordd Dinbych a maes parcio Caeau Coffa Rhuthun. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys dolen o’r llwybr i ystad dai Glasdir, gerllaw Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.

Bydd Rhan Dau, a fydd yn gweld y llwybr yn cael ei ymestyn ar draws Stryd y Parc, trwy faes parcio Stryd y Parc ac ymlaen i Stryd Clwyd, yn cychwyn yn ystod y misoedd nesaf.safe route ruthin

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi bod mewn sefyllfa i glirio’r rhan hon o lwybr troed, er mwyn caniatáu i blant a’u rhieni a gwarcheidwaid lwybr diogel sy’n cysylltu’r ysgolion tuag at canol y dref. Rydym wedi ymgynghori a gwrando ar farn y cyhoedd a chael y gwaith ar waith cyn gynted ag y bo modd.

“Nawr bod y cam cyntaf wedi’i gwblhau, ein sylw fydd ymestyn y llwybr diogel i’r ysgol yn agosach at ganol y dref, gan ddarparu diogelwch ychwanegol i’r rhai a fydd yn defnyddio’r llwybr”.

Gwaith yn mynd yn ei flaen mewn dwy ysgol yn Sir Ddinbych

Mae disgyblion wedi bod yn gadael eu hôl ar ddwy ysgol newydd yn Sir Ddinbych, canlyniad buddsoddi bron i £10 miliwn mewn addysg wledig yn y sir.

Bu myfyrwyr Ysgol Carreg Emlyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn cymryd rhan mewn seremonïau llofnodi paneli wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn y ddwy ysgol.

Cawsant gyfle i lofnodi paneli sy’n rhan o wead yr adeiladau newydd.

Mae ysgol ddwyieithog newydd yr eglwys yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair, mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy, ac yng Nghlocaenog fydd safle newydd Ysgol Carreg Emlyn.

Ariennir y ddwy ysgol drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Roedd hi’n galonogol gweld disgyblion yn y ddwy ysgol yn dangos cymaint o ddiddordeb yn eu hadeiladau newydd.

“Mae’n un o flaenoriaethau’r Cyngor i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau fod ganddynt ysgolion modern sy’n hybu eu dysg. Mae’r ddwy ysgol hon yn rhan o fuddsoddiad o £90 miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych.

“Gallwn weld fod y gwaith yn dod ei flaen yn dda, ac rydym yn disgwyl i’r ddwy ysgol agor eu drysau erbyn yr haf nesaf.”

Y prif gontractwr a benodwyd i gyflawni’r gwaith yw Wynne Construction o Fodelwyddan.

Yn Ysgol Carreg Emlyn mae’r gwaith o osod y paneli strwythurol wedi’i gwblhau a bydd y ffenestri’n mynd i mewn yn yr wythnosau nesaf, cyn dechrau ar y gwaith y tu mewn.

Yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd dechreuodd y gwaith o osod y paneli strwythurol ddechrau mis Medi.

 

Carreg filltir arbennig i Ysgol Llanfair DC

Mae seremoni torri tir wedi nodi’r cam cyntaf o adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar dir cyferbyn â Bryn y Clwyd, Llanfair gan ddefnyddio cyllid gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn ogystal â buddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o fuddsoddiad o dros £90 miliwn i ysgolion Sir Ddinbych o fewn rhaglen ehangach Ysgolion yr 21ain Ganrif a gyllidir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn ogystal a’r buddsoddiad mewn addysg Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol ar Addysg, Plant, Pobl Ifanc a’r Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

“Rydym wedi cydnabod bod y cyfleusterau presennol wedi dyddio a’u bod gwir angen moderneiddio.  Mae pryderon hefyd wedi codi am brinder maes parcio, ardaloedd staff, ardaloedd cyhoeddus a hygyrchedd i’r ysgol, sydd wedi’i leoli ar ffordd brysur yr A525 yng nghanol y pentref. Dyma’r rheswm bod y Cyngor, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi’n sylweddol yn y prosiect hwn ac rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn dechrau.

“Mae hyn yn datgan cyfnod newydd i genedlaethau o ddisgyblion yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac edrychwn ymlaen at weld cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cael eu datblygu ar y safle dros y misoedd nesaf”.

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy:: “Rydym yn hynod falch fod yr Ysgol Eglwys newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC wedi cyrraedd y garreg filltir arbennig yma o fewn y prosiect.  Rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Wynne Construction er mwyn darparu ysgol eglwys ddwyieithog yn ardal Rhuthun.”

Gwaith yn mynd rhagddo ar safle newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn

Mae gwaith wedi dechrau ar ysgol gynradd newydd diolch i help disgyblion.

Cynhaliodd Cyngor Sir Ddinbych seremoni torri’r dywarchen yng Nghlocaenog ar gyfer ysgol newydd un safle ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, sydd wedi’i lleoli ar ddau safle ar hyn o bryd, yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o fuddsoddiad o fwy na £90miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych yn rhaglen ehangach Ysgolion yr 21ain ganrif, a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Y prif gontractwr a benodwyd i gyflawni’r gwaith yw Wynne Construction sy’n seiliedig ym Modelwyddan.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae’r ffaith fod gwaith yn dechrau ar yr ysgol newydd yn newyddion ardderchog i ddisgyblion yn Ysgol Carreg Emlyn ac i genedlaethau’r dyfodol sy’n byw yng Nghlocaenog, Cyffylliog a’r ardaloedd o amgylch.

“Roedd yn wych gweld disgyblion, athrawon ac arweinwyr cymunedol yn ymuno ar gyfer torri’r dywarchen ar safle’r ysgol newydd.

“Rydym yn cydnabod bod hyn wedi bod yn hir yn digwydd, ond rydym yn gwireddu ein haddewid i fwrw ymlaen â’r cynlluniau uchelgeisiol hyn.

“Mae gwneud Sir Ddinbych yn lle y bydd pobl iau am fyw ynddo a sicrhau bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol ac mae’r ysgol newydd hon yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Mae prosiectau eraill a ariannwyd dan raglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn cynnwys adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, gwaith gwella sylweddol yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, yn ogystal ag adeilad ysgol newydd yng Nglasdir, Rhuthun ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych unwaith eto ac ym mhentref Clocaenog ar y prosiect yma.  Nawr bod y disgyblion wedi ein helpu i ddechrau’r gwaith, byddwn yn edrych ymlaen at drefnu ymweliadau safle yn ystod y gwaith adeiladu, er mwyn iddynt allu gweld sut mae eu hysgol newydd yn datblygu.

“Byddwn yn parhau i ddarparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, gan ddiogelu swyddi presennol drwy ein cadwyn gyflenwi leol, a sicrhau bod y manteision o’r buddsoddiad hwn yn cael eu gwasgaru mor eang ag sy’n bosibl.”

Carreg filltir arwyddocaol wrth ddatblygu ysgol newydd

South Evevation

Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yn Llanfair Dyffryn Clwyd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen – gyda chwblhau’r pryniant tir ar gyfer datblygiad yr ysgol newydd.

Mae’r safle ysgol bresennol ar Ffordd Wrecsam yn Llanfair DC. Lleolir yr ysgol newydd yn agos ar safle mwy ym Mron y Clwyd. Nawr mae’r gwerthiant wedi’i lofnodi a’i selio, mae’n golygu y bydd gwaith o adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau yn ddiweddarach yr haf hwn.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Ysgolion a Rhaglen Gyfalaf Addysg yr 21ain Ganrif. Wynne Construction yw’r prif gontractwyr a benodwyd i wneud y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, “Rwyf wrth fy modd bod gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC. Mae Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn darparu amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf.

“Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau modern a chyfoes i’n plant a’n pobl ifanc a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i wireddu eu potensial.

“Bydd adeiladu cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC yn rhoi cyfle i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol, gan roi hwb i’r economi leol hefyd.”

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Esgobaeth Llanelwy: “Rydym wrth ein bodd bod yr Ysgol Eglwys newydd yn Ysgol Llanfair DC wedi cyrraedd y garreg filltir hanfodol nesaf o fewn y prosiect. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i wella’r ddarpariaeth ddwyieithog yn ardal Rhuthun.”

Dywedodd y Pennaeth, Llinos Hughes: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Llanfair DC ac rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion hwn gyda’r disgyblion, y rhieni a’r gymuned ehangach.”

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Sir Ddinbych a’r contractwyr yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r prosiect fynd rhagddo”.