Ysgolion Rhuthun yn dathlu carreg filltir arbennig

Ymunodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn y dathliadau yn Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun wrth iddynt ddathlu carreg filltir arbennig yn eu hanes.

Agorwyd y ddwy ysgol yn swyddogol gan y Prif Weinidog mewn seremoni heddiw, ddydd Iau, Gorffennaf 4.

Symudodd cyfanswm o 428 o ddisgyblion i’r ysgolion newydd sbon, a leolir ar safle Glasdir ar gyrion Rhuthun ar Ebrill 10, 2018. Ariannwyd y prosiect £ 11.3 miliwn gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei raglen Ysgolion 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Rydym wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi gallu dod i rannu yn y diwrnod pwysig hwn gyda chymunedau ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos. Mae’n achlysur pwysig.

“Gwnaeth Sir Ddinbych, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, ymrwymiad i fuddsoddi mewn ysgolion a chyflwr adeiladau ysgolion ac mae hynny’n sicr wedi talu ar ei ganfed. Mae creu adeiladau newydd, addas at y diben ar gyfer y ddwy ysgol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’r cyfleusterau modern, modern sydd wedi’u hadeiladu ar safle Glasdir wedi disodli’r hen adeiladau blinedig ar yr hen safle ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein plant a’n pobl ifanc yn haeddu’r dechrau gorau posibl ac roeddem wrth ein bodd yn gwireddu’r freuddwyd o adeiladu ysgolion newydd sbon ar gyfer Pen Barras a Stryd y Rhos.

“Roedd adeiladu’r ysgolion newydd yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Rhuthun a bydd o fudd i ddisgyblion am genedlaethau i ddod. Rydym hefyd wedi gweld cyfanswm o £ 90miliwn o fuddsoddiad mewn ysgolion ar draws y sir, gan gynnwys adeiladau ysgol newydd sbon yn Ysgol Uwchradd y Rhyl / Tir Morfa, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Carreg Emlyn a dau arall yn cael eu hadeiladu yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Crist y Gair yn yn y Rhyl.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae wedi bod yn bleser ymweld ag ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos heddiw a gweld canlyniadau’r buddsoddiad mewn addysg. Mae ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru wedi elwa o fwy na £ 280m yn ystod cam cyntaf rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Ac mae mwy o fuddsoddiad i ddod drwy’r ail gam. Dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn adeiladau ysgol ers y 1960au ac mae wedi cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chymunedau. Mae’n rhywbeth y gall pawb fod yn falch ohono. Dymunaf y gorau i’r staff a’r disgyblion yma yn Rhuthun yn eu cyfleusterau newydd. ”

Y contractwyr oedd yn gyfrifol am adeiladu’r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos oedd Wynne Construction.

 

 

Disgyblion wedi cael cipolwg ar eu hysgol newydd sbon

20180117_102217

Mae plant a fydd yn symud i ddwy ysgol newydd yn Nyffryn Clwyd wedi cael cyfle arall i weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo, sydd bellach wedi cyrraedd y cam olaf.

Mae adeiladau a chyfleusterau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn cael eu datblygu ar safle a rennir yng Nglasdir, Rhuthun. Bydd yr adeiladau newydd yn disodli’r adeiladau presennol ar Stryd y Rhos.

Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £11.2 miliwn; wedi ei ariannu drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Wynne Construction sy’n gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Meddai’r Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Dyma gyfle cyffrous i’r disgyblion weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo. Pob tro rydych chi’n gyrru heibio rydych chi’n gweld rhywbeth newydd ar y safle.

“Rydym ni wedi cynnal ymweliadau ysgol â’r safle o’r blaen, fel rhan o’n hymrwymiad i gynnwys y disgyblion yn y datblygiad, ac mae ymateb y plant wastad yn un llawn cyffro.

“Wrth i’r gwaith dynnu tua’r terfyn, rydym ni’n edrych ymlaen at weld yr ysgolion newydd yn cael eu cwblhau cyn iddyn nhw agor ym mis Ebrill. Mae’r prosiect wedi datblygu’n aruthrol ac mae’n fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Rhuthun.”

Dywedodd Alison Hourihane, Rheolwr Busnes a Datblygiad Cymunedol Wynne Construction: “Rydym yn hynod falch o groesawu’r plant i’r safle er mwyn dod i adnabod yr ysgol newydd. Yn ystod y daith, rydym yn edrych ar y cynlluniau adeiladau ac yn trafod y gwaith adeiladau sydd yn mynd rhagddo.  Maent hefyd yn cael gweld y gweithlu wrth eu gwaith.”

Dweud eich dweud ar gynlluniau adeiladau ysgol arfaethedig

Mae sesiwn galw i mewn wedi’i drefnu er mwyn arddangos cynlluniau adeiladau ysgol arfaethedig ar gyfer  ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos ar safle Fferm Glasdir yn Rhuthun.

Mae’r Cyngor yn symud ymlaen gyda’r cynigion ac mae’r sesiwn galw i mewn, sy’n rhan o ymgynghoriad, yn rhoi cyfle i bobl weld y cynlluniau a siarad gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych a chwmni Wynne Construction parthed y datblygiad arfaethedig.

Gall pobl fynychu’r sesiwn ddydd Mawrth, Ebrill 26 ym Marchnad Ffermwyr Rhuthun rhwng 5.30pm a 7.30pm.

Am wybodaeth bellach am y sesiwn galw i mewn, ffoniwch 01824 706127 neu e-bostio: moderneiddioaddysg@sirddinbych.gov.uk

Prosiectau Cynradd Rhuthun

Mae’r prosiect er mwyn darparu 4 adeilad cynradd newydd yn ardal Rhuthun yn symud ymlaen. Y bwriad yw y bydd adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen    Barras yn cael eu hagor erbyn mis Medi 2017. Mae adeilad yr ysgol newydd ar gyfer yr ysgol ardal i    wasanaethu Llanfair a Pentrecelyn wedi ei raglennu i agor ym mis Ionawr 2018. Bydd hyn yn trawsnewid addysgu cynradd gyda dau draean o holl blant cynradd yr ardal yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau newydd. Mae bwrdd prosiect i oruchwylio’r gwaith hwn bellach wedi cael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Mae’r 3 prosiect yn rhan o’r Cynllun Corfforaethol cyfredol a bydd y bwrdd yn helpu i sicrhau bod y prosiectau yn cael eu gwireddu. I gynorthwyo hyn mae cytundeb wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru fel y bydd y tri phrosiect yn cael eu cynnwys yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Ddinbych. Dros y 18-24 mis nesaf byddwn yn cyfathrebu â rhieni yn rheolaidd i’ch hysbysu chi am y cynnydd ar y tri prosiect.

STRYD Y RHOS AC YSGOL PENBARRAS- Ers yr haf mae gwaith wedi cael ei wneud ar ddatblygu dyluniad cysyniadol ar gyfer adeiladau ysgol a chyfleusterau newydd ar gyfer ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras ar safle Glasdir.

Bydd y prosiect yn mynd i’r farchnad drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru yn gynnar yn 2016. Rydym yn disgwyl y bydd contractwr yn cael ei benodi ym mis Mawrth. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i’r dylunio manwl gael ei wneud yn ystod tymor y gwanwyn gyda cymuned y ddwy ysgol. Disgwylir y bydd y gwaith ar y safle i fod i ddechrau yn ystod haf 2016 ac wedi ei raglennu i gael ei gwblhau ar gyfer mis Medi 2017.

YSGOL CARREG EMLYN- Mae’r gwaith dylunio manwl yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar adeilad newydd ar gyfer Ysgol    Carreg Emlyn. Bydd dyluniad cychwynnol yn cael ei gyflwyno i Lywodraethwyr yn Rhagfyr 2015.

Bydd yr adeilad ysgol newydd yn cael ei lleoli ym mhentref Clocaenog a bydd yn galluogi’r ysgol i gael eu lleoli ar un safle.

Yn ystod cyfnod y gwaith dylunio manwl, byddwn yn rhannu cynlluniau o’r ysgol newydd, gan    gynnwys delweddau 3D drwy gylchlythyrau ac ein blog.

YSGOL LLANFAIR DYFFRYN CLWYD AC YSGOL PENTRTECELYN-  Mae dyluniadau cychwynnol ar gyfer yr adeilad ysgol newydd yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn llinell amser y prosiect gyda nifer o astudiaethau dichonoldeb yn cael ei wneud ar safleoedd posibl.