Aeth y Cynghorydd Gill German a Jan Juckes Hughes, Rheolwr Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg Integredig draw i ymweld ag Ysgol Penmorfa yn ddiweddar, i weld sut mae’r gwaith o adeiladu’r Cyfleuster Gofal Plant yn dod yn ei flaen. Ariannwyd y prosiect gan Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd y gwaith ar yr estyniad ym mis Medi 2022, ar ôl penodi’r contractwr adeiladu TG Williams yn llwyddiannus.
Bydd yr estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant, gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol elwa ar ofal plant o safon uchel ym Mhrestatyn. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a theuluoedd yn yr ardal ac yn rhoi mynediad at ddysgu i blant o oedran ifanc. Disgwylir i’r cyfleuster fod wedi’i gwblhau yn ystod gwanwyn 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych yn hanfodol ar gyfer cefnogi ein teuluoedd a rhoi mynediad i’n plant at ddysgu a gofal o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn ganolog i ddatblygiad plant. Bydd yr estyniad yn Ysgol Penmorfa yn cynyddu capasiti ar gyfer lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn yr ardal, er mwyn ehangu’r hyn y gallwn ei gynnig ar hyn o bryd. Dyma newyddion gwych i’r gymuned. Rwy’n falch o weld hyn yn digwydd ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleuster yn cael ei gwblhau.”
Dywedodd Jan Juckes-Hughes, Rheolwr Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg:
“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith sydd wedi’i wneud ar yr Estyniad hyd yn hyn. Bydd plant a theuluoedd yn y gymuned leol yn elwa o’r gwelliannau hyn”.
