Bydd disgyblion, rhieni a thrigolion yn cael eu cyfle cyntaf i adolygu cynlluniau ar gyfer yr ysgol Gatholig 3-16 arfaethedig newydd yn y Rhyl fel rhan o ymgynghoriad cyn – gynllunio sydd ar fin cychwyn.
Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn gofyn am farn ar y cynnig drafft ar gyfer ysgol Gatholig newydd 3-16 oed yn y Rhyl.
Y cynnig drafft yw codi adeilad ysgol newydd 3-16 i ddisodli Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Bendigaid Edward Jones.
Ysgol cyfrwng Saesneg fydd yr ysgol newydd ar gyfer 420 disgyblion 3-11 oed llawn amser a 500 o ddisgyblion 11-16 oed. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif.
Mae copïau o’r dogfennau ymgynghori ar gael ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau
Gallwch hefyd weld copïau caled o’r holl ddogfennau yn Llyfrgell y Rhyl. Bydd mynediad at nifer o luniau a datganiad dylunio yn Ysgol Mair, Ysgol Bendigaid Edward Jones ac Eglwys Gatholig y Santes Fair, 119 Ffordd Wellington, Y Rhyl.
Gall pobl ddweud eich dweud yn yr ymghynghoriad cyn-cynllunio drwy fynychu digwyddiad ymgynghori cyn cynllunio yn Ysgol Bendigaid Edward Jones – Dydd Mawrth 7 Tachwedd – 5-7 pm neu Ysgol Mair -Dydd Iau 9 Tachwedd-3-6 pm
Bydd aelodau o’r tîm dylunio yn bresennol ar y diwrnod i ateb unrhyw gwestiynau am y cynlluniau ac i wneud unrhyw sylwadau ar y cynnig cyn ei roi ymlaen ar gyfer caniatâd cynllunio. Gall unrhyw un fynychu’r digwyddiadau.
Hefyd gall pobl anfon sylwadau drwy e-bost: denbighshire@ahr-global.com neu ysgrifennwch at – AHR Architects Limited, Parsonage Chambers, 3 The Parsonage, Manchester, M3 2HW.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyn cynllunio yw 25 Tachwedd 2017.