Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar yr ardaloedd allanol yn Ysgol Gatholig Crist y Gair , Y Rhyl. Mae’r gwaith paratoi ar gyfer y cae pob tywydd yng nghefn y safle yn cael ei wneud ar hyn o bryd a bydd y cae newydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror. Mae gwaith hefyd yn parhau ar y maes parcio a’r cyfleusterau chwarae i ddisgyblion ym mlaen y safle. Disgwylir i holl waith ail gam y prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill.
Ariennir y prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.