Mae cynlluniau i godi adeiladau Ysgol newydd yn ardal Rhuthun wedi symud gam yn nes ar ôl i gynllun busnes am arian gael eu cymeradwyo gan aelodau Cyngor Sir Ddinbych, yn cwrdd yn Rhuthun heddiw (Dydd Mawrth).
Un o’r prosiectau yw darparu adeiladau Ysgol ac adnoddau newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos ar safle newydd yn Rhuthun. Gall y prosiect hefyd gynnig cartref i ddisgyblion presennol Ysgol Rhewl, yn ddibynnol ar ddymuniadau rhieni. Bydd yr ysgol honno yn cau ym mis Awst 2017.
Mae’r prosiect yn werth oddeutu £10.5 miliwn. Mae’r Cynllun Busnes a gytunwyd gan y Cyngor yn gwneud cais am hyd ar 42% o’r arian Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect. Mae’r £6.08 miliwn sy’n weddill wedi cael ei ddyrannu gan y Cyngor, fel rhan o ariannu prosiectau ysgolion 21ain ganrif.
Bydd disgwyl i’r gwaith gychwyn ym Medi 2016 a’i gwblhau yn Haf 2017, yn ddibynnol ar benderfyniad ariannol terfynol gan Lywodraeth Cymru
Y prosiect arall yw adeilad newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog. Mi ffurfiwyd Ysgol Carreg Emlyn ym Medi 2014 i gymryd lle ysgolion Clocaenog a Chyffylliog – gyda’r Ysgol newydd yn parhau i ddefnyddio’r hen safleoedd.
Mae’r cynllun busnes yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer hyd at £1.4 miliwn tuag at y gwaith, gyda Sir Ddinbych yn ariannu gweddill y prosiect (cost lawn – £4.9 miliwn) Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn Nhachwedd 2016, eto yn ddibynnol ar arian gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cynlluniau yn ddibynnol ar ganiatad cynllunio sydd heb eu penderfynu hyd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg: “Mae’r prosiectau hyn wedi dod yn ganlyniad o’r adolygiad addysg yn ardal Rhuthun.
Mae adeiladau Pen Barras a Stryd y Rhos ar yr un safle rŵan mewn rhan arall o’r dref ac mae’r adeiladau angen gwaith dirfawr i’w hadnewyddu. Yr opsiwn rydym wedi’i ffafrio yw ail-leoli’r ysgolion mewn adeiladai modern ar safle Glasdir ac mae;’r cynlluniau eisoes wedi’i lunio’u rhannu â’r Cyhoedd.
“Mae datblygiad Ysgol Carreg Emlyn development yn gam naturiol ymlaen yn hanes yr Ysgol newydd ac mae cynlluniau manwl eisoes wedi’i dylunio. Y cam nesaf fyddai apwyntio contractwr i ddatblygu cynlluniau manwl.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau addysg fodern, er lles ein plant a’n pobl ifanc ac rydym yn falch o allu cefnogi’r cynlluniau busnes hyn.
Bydd disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn ystod mis Mai.
Bydd trydydd cynllun busnes ar gyfer Ysgol ardal newydd ar gyfer ardaloedd Llanfair a Phentrecelyn yn cael eu cyflwyno am drafodaeth dros y misoedd nesaf.