Mae’r prosiect er mwyn darparu 4 adeilad cynradd newydd yn ardal Rhuthun yn symud ymlaen. Y bwriad yw y bydd adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn cael eu hagor erbyn mis Medi 2017. Mae adeilad yr ysgol newydd ar gyfer yr ysgol ardal i wasanaethu Llanfair a Pentrecelyn wedi ei raglennu i agor ym mis Ionawr 2018. Bydd hyn yn trawsnewid addysgu cynradd gyda dau draean o holl blant cynradd yr ardal yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau newydd. Mae bwrdd prosiect i oruchwylio’r gwaith hwn bellach wedi cael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr. Mae’r 3 prosiect yn rhan o’r Cynllun Corfforaethol cyfredol a bydd y bwrdd yn helpu i sicrhau bod y prosiectau yn cael eu gwireddu. I gynorthwyo hyn mae cytundeb wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru fel y bydd y tri phrosiect yn cael eu cynnwys yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Ddinbych. Dros y 18-24 mis nesaf byddwn yn cyfathrebu â rhieni yn rheolaidd i’ch hysbysu chi am y cynnydd ar y tri prosiect.
STRYD Y RHOS AC YSGOL PENBARRAS- Ers yr haf mae gwaith wedi cael ei wneud ar ddatblygu dyluniad cysyniadol ar gyfer adeiladau ysgol a chyfleusterau newydd ar gyfer ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras ar safle Glasdir.
Bydd y prosiect yn mynd i’r farchnad drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru yn gynnar yn 2016. Rydym yn disgwyl y bydd contractwr yn cael ei benodi ym mis Mawrth. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i’r dylunio manwl gael ei wneud yn ystod tymor y gwanwyn gyda cymuned y ddwy ysgol. Disgwylir y bydd y gwaith ar y safle i fod i ddechrau yn ystod haf 2016 ac wedi ei raglennu i gael ei gwblhau ar gyfer mis Medi 2017.
YSGOL CARREG EMLYN- Mae’r gwaith dylunio manwl yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar adeilad newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn. Bydd dyluniad cychwynnol yn cael ei gyflwyno i Lywodraethwyr yn Rhagfyr 2015.
Bydd yr adeilad ysgol newydd yn cael ei lleoli ym mhentref Clocaenog a bydd yn galluogi’r ysgol i gael eu lleoli ar un safle.
Yn ystod cyfnod y gwaith dylunio manwl, byddwn yn rhannu cynlluniau o’r ysgol newydd, gan gynnwys delweddau 3D drwy gylchlythyrau ac ein blog.
YSGOL LLANFAIR DYFFRYN CLWYD AC YSGOL PENTRTECELYN- Mae dyluniadau cychwynnol ar gyfer yr adeilad ysgol newydd yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn llinell amser y prosiect gyda nifer o astudiaethau dichonoldeb yn cael ei wneud ar safleoedd posibl.
Hoffi hwn:
Hoffi Llwytho...