Cyngor Sir Ddinbych yn ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol, y tro hwn am brosiect ailddatblygu gwerth £25 miliwn yn Ysgol Uwchradd y Rhyl.  Cyflwynir y wobr flynyddol gan y Consortiwm Awdurdodau Lleol yng Nghymru (CLAW).

 Mae’r prosiect yn cynnwys adeilad tri llawr newydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl sydd hefyd yn gartref i 45 o ddisgyblion Ysgol Tir Morfa, yr ysgol arbennig gymunedol leol. Adeiladwyd y cyfleuster newydd ar gaeau chwarae hen safle Ysgol Uwchradd y Rhyl ger Canolfan Hamdden y dref. Pan gwblhawyd yr adeilad newydd cafodd yr hen ysgol ei dymchwel er mwyn creu caeau chwarae newydd.

 Comisiynodd Adran Addysg y Sir dîm Cynnal, Adeiladu a Dylunio Sir Ddinbych i greu ysgol newydd yn lle Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, ac aethant ati i wneud hynny mewn partneriaeth â Willmott Dixon, Partner Adeiladwaith, a Mott McDonald, Ymgynghorydd.

Mae’r gwobrau ar agor i bob aelod o CLAW a’u nod yw gwobrwyo a chydnabod rhagoriaeth mewn dylunio ac adeiladwaith gyda’r enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid annibynnol. Roedd y wobr eleni’n canolbwyntio ar gynaladwyedd (amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd) ymgysylltiad â rhanddeiliad a darparu manteision ar gyfer cymunedau.

Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Asedau: “Cyflwynodd y tîm gais am y wobr Prosiect y Flwyddyn oherwydd eu bod yn teimlo mai’r ethos o bartneriaeth, a oedd mor amlwg drwy gydol y cynllun, oedd yn  allweddol i’w lwyddiant.

“Cwblhawyd y prosiect yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2016 ac mae’r ysgol– y mae staff dysgu wedi’i disgrifio fel ‘ysgol eu breuddwydion” – wedi derbyn adborth gwych.  Rydym wrth ein bodd fod ein hymdrechion unwaith eto wedi’u cydnabod gan y diwydiant fel enghraifft o ragoriaeth wrth ddylunio a darparu prosiect mor sylweddol ac mor flaenllaw yn Sir Ddinbych.

“Hoffwn gymeradwyo’r tîm cyfan am eu hymdrechion, eu hymrwymiad a’u hymroddiad.  Mae derbyn y fath anrhydedd unwaith eto ar ôl llwyddiant tebyg gyda’r prosiect Twm o’r Nant y llynedd heb os yn bluen fawr yn eu cap”.

 Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Cabinet Arweiniol dros Addysg: “Mae’r prosiect wedi darparu cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer ysgolion ac roedd yn bosibl o ganlyniad i arian a gafwyd drwy raglen gyfalaf y Cyngor a rhaglen Ysgolion 21G Llywodraeth Cymru – rhaglen sy’n dangos gwir ymrwymiad i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc drwy ddarparu cyfleusterau addas i’r pwrpas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hon yn enghraifft wych o sut y mae adrannau’r Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd a gyda phartneriaid i ddarparu prosiectau neilltuol”.

Meddai Pennaeth yr ysgol, Claire Armistead: “Alla’ i ddim coelio mai ni biau hon – mae’n anhygoel!  Allwch chi ddim cerdded drwy fan hyn heb weld drwy bob dosbarth, drwy bob ardal. Allwn i ddim fod wedi dychmygu pa mor dda fyddai’r canlyniad  – mae’n well na fy mreuddwyd orau!”

 

Adeilad ysgol uwchradd newydd sbon wedi ei agor yn swyddogol

Mae carreg filltir arbennig wedi’i chyrraedd yn hanes yr ysgol uwchradd newydd sbon yn y Rhyl – gyda’r adeilad yn cael ei agor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru (dydd Gwener, 21 Hydref).

Mae’r ysgol uwchradd newydd sbon gwerth £25 miliwn wedi cael ei hadeiladu ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd y Rhyl ac yn darparu ar gyfer 1,200 o ddisgyblion yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Addysg ac Ysgolion 21ain Ganrif.

Yn ogystal â’r cyfleusterau academaidd arferol, mae gan yr ysgol hefyd far caffi, iard adeiladu a salon trin gwallt.

Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg Cabinet Sir Ddinbych:  “Mae hon yn bennod gyffrous yn hanes Ysgol Uwchradd y Rhyl.

“Mae llawer o genedlaethau o ddisgyblion wedi cael eu haddysgu yn yr ysgol, gyda chenedlaethau’r dyfodol bellach yn elwa o gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

“Dyma enghraifft wych o sut y mae’r ysgol wedi gweithio’n agos gyda’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a’r contractwyr Willmott Dixon i wireddu’r freuddwyd o gael ysgol uwchradd newydd sbon yn y Rhyl”.

Dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Mae ein plant yn haeddu cael eu dysgu yn yr adeiladau gorau posib y gallwn ddarparu a dyna yw holl amcan ein rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae Ysgol Uwchradd y Rhyl yn esiampl wych o beth allwn ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol a’n hysgolion, er mwyn darparu dysgwyr o’r ardal gyda lleoliad pwrpasol er mwyn gwireddu eu huchelgais a chyrraedd y nod.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i Mrs Armitstead, ei staff, llywodraethwyr a’r disgyblion yn eu hysgol newydd”

Dywedodd Claire Armitstead, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Gall ein plant nawr gyrchu’r cyfleusterau gorau posib fel rhan o’u haddysg academaidd a galwedigaethol fydd yn cynnig y cychwyn gorau posib iddyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd a’u haddysg yn y dyfodol.

Mae ganddynt yr adeilad haeddiannol ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr ysgol yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.  Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Wilmott Dixon am eu cefnogaeth, er mwyn gwireddu;’r freuddwyd addysgol o fewn yr adeilad hynod hwn”.

Dywedodd Phil Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Tir Morfa: “Mae’r disgyblion a staff o Dir Morfa sydd wedi symud o’n safle yn Ffordd Derwen wedi bod yn falch iawn o symud i mewn i’r ganolfan lloeren yn yr adeilad newydd, ynghyd â’i chyfleusterau diweddaraf a fydd o fudd i’n disgyblion a chenedlaethau’r dyfodol.

“Nid yw llawer o ddisgyblion yng Nghymru yn cael cyfle i symud i ysgol newydd sbon. Yn y Rhyl rydym yn ystyried ein hunain yn lwcus iawn i gael y cyfle hwn – achlysur pwysig iawn yn hanes ein hysgol”.

Ysgol Newydd y Rhyl

Mae gwaith am ddechrau i baratoi’r safle cychwynnol gan y contractwyr yn ystod y pythefnos nesaf ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl. Bydd contractwyr ar y safle erbyn yr amser y bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Bydd mynediad i’r safle drwy Ffordd Tynewydd, felly efallai y bydd rhywfaint o aflonyddwch i ddechrau i breswylwyr lleol yn yr ardal, bydd hyn yn cael ei reoli gan y contractwr i fod cyn lleied â phosibl.

O ran gwasanaethau yn y ganolfan hamdden, ni fydd y mynediad yn cael ei effeithio a bydd yn gweithredu yn ôl yr arfer. Bydd pob pwynt mynediad cyfredol i’r ysgol a’r ganolfan hamdden yn cael eu cynnal.

Cadwch lygad ar wefan Sir Ddinbych, y blog addysg, gwefan yr ysgol a’r hysbysfwrdd yn y ganolfan hamdden am y newyddion diweddaraf ar sut mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf.

Rhyl-View1-RevB