Haf prysur yn Ysgol Bro Cinmeirch i wella’r amgylchedd dysgu

Mae’r gwaith wedi dechrau dros wyliau’r haf i wella’r amgylchedd dysgu a’r cyfleusterau yn Ysgol Bro Cinmeirch. Bydd y cynllun yn darparu dosbarth newydd a fydd yn cymryd lle yr ystafell gymunedol sydd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, toiledau newydd i blant Cyfnod Sylfaen a gwelliannau i’r dosbarthiadau cyfredol.

Cwmni Adever Construction o Ddinbych sydd wedi eu penodi fel contractwr y cynllun, sydd wedi eu croesawu gan rieni, staff ar gymuned.

Dywed Sian Griffiths , Pennaeth dros dro Ysgol Bro Cinmeirch “Mae’r ysgol a’r llywodraethwyr yn hapus iawn gyda’r gwelliannau sydd yn cymryd lle ar hyn o bryd. Bydd y gwaith y darparu disgyblion gyda amgylchedd dysgu gwell a fydd yn elwa myfyrwyr i’r dyfodol. Hoffwn ddiolch i’r Tîm Prosiect ynghyd a Adever Construction am eu gwaith caled ar y prosiect a rydym yn edrych ymlaen i ddefnyddio y cyfleusterau newydd pan fydd wedi ei gwblhau.”

Bydd yr adeilad cyfredol yn cael ei drosglwyddo yn ôl i ddwylo’r ysgol yn barod i ddechrau’r tymor, gyda’r dosbarth newydd yn barod erbyn canol mis Hydref.

Mae’r estyniad ar toiledau newydd yn cael eu cyllido drwy arbedion sydd wedi eu gwireddu gan leihau y defnydd o gabannau dros dro ar draws Sir Ddinbych. Mae cynnydd y cynllun hwn yn unol a’r Cynllun Corfforaethol y Cyngor i ddarparu cyfleusterau ysgol modern sydd yn gwella ymhellach profiad dysgu disgyblion.

Gong y diwydiant adeiladu yn mynd i…. Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl derbyn gwobr fawreddog sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn adeiladu o fewn awdurdod lleol.

Derbyniodd y Cyngor y teitl Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Blynyddol Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (CLAW) ar gyfer yr estyniad £1.3 miliwn yn Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych.

Roedd y prosiect yn cynnwys estyniad o dair ystafell ddosbarth, neuadd a llety ategol, yn ogystal ag estyniad ar wahân a oedd yn darparu derbynfa ac ystafell staff newydd.  Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan dîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal mewnol Sir Ddinbych ac adeiladwyd gan Wynne Construction.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Roedd y cynllun wedi creu argraff ar y beirniaid gyda’i ffurf greadigol a gynlluniwyd i ymestyn ysgol bresennol, ynghyd â gwerth am arian trawiadol. Cafodd ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr estyniad ei greu i gwrdd â’r galw cynyddol am leoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.   Mae’r gwaith yn golygu fod gan yr ysgol nawr le i 280 o ddisgyblion, i gwrdd â thwf yr ysgol yn y dyfodol.

Hefyd, roedd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth symudol, sydd wedi arwain at fwy o le ar gael yn y neuadd ar gyfer gweithgareddau ac mae hefyd wedi gwella effeithlonrwydd ynni. Roedd ymgysylltu effeithiol ac ymgynghori gydag Ysgol Twm o’r Nant a dwy ysgol arall sy’n rhannu cyfleusterau ar y safle hefyd yn hanfodol i lwyddiant y cynllun.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyllid, Asedau a Thai Sir Ddinbych: “Mae hwn yn gyflawniad gwych a hoffwn longyfarch y tîm cyfan ar eu llwyddiant. Mae’n anrhydedd go iawn i gael eu cydnabod am eu dull arloesol ar gyfer y prosiect hwn ac mae’r wobr hon yn cydnabod y tîm fel arweinwyr y sector yng Nghymru.

“Roedd safon y cystadlu yn uchel gydag ystod eang o brosiectau ar draws Cymru ac roedd y beirniaid yn ystyried materion fel cynaliadwyedd, ymgysylltu ac ymgynghori, iechyd a diogelwch, arloesed, canlyniadau’r prosiect, ei effaith a gwerth wrth wneud eu penderfyniad.

“Roedd y prosiect hwn yn ticio’r blychau hyn. Y canlyniad yw cyfleuster gwych i staff a disgyblion Twm o’r Nant”.

Dywedodd y Pennaeth, Nerys Davies: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi cyflwyno her go iawn i’r ysgol o ran parhau â dyletswyddau bob dydd yn yr ysgol yn ystod y gwaith, ond mae’r cydweithrediad gan Sir Ddinbych a Wynne’s, y prif gontractwyr wedi bod yn ardderchog i sicrhau nad oedd dim gwerth o amhariad ar yr ysgol a’r trigolion lleol.

“Mae ymateb cadarnhaol gan y rhieni a chymdogion i ddatblygiad yr ysgol hyd yn hyn wedi bod yn wych ac wedi dangos ei bod yn werth mynd trwy rhai o’r anawsterau.”

Wynebau enwog yn dod i weld cyfleusterau newydd Twm o’r Nant

Cafodd cyn-ddisgybl o Ysgol Twm o’r Nant a’r cogydd teledu, Bryn Williams, a Lois Cernyw, cyflwynydd “Stwnsh” ar S4C, parents a’r gymuned o amgylch Ysgol Twm o’r Nant, y cyfle i archwilio cyfleusterau newydd yr ysgol yn ddiweddar ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau cyn yr agoriad swyddogol.

Croesawodd pennaeth yr ysgol, Nerys Davies, bawb i’r bore agored ac roedd wrth ei bodd gyda’r ymateb. “Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn her go iawn i’r ysgol o ran cadw’r ysgol yn weithredol yn ystod y gwaith, ond mae’r cydweithrediad gan Sir Ddinbych a Wynne, y prif Contractwyr, wedi bod o’r radd flaenaf wrth sicrhau bod yr ymyrraeth i’r ysgol a’r trigolion lleol wedi ei leihau i’r eithaf. Mae’r ymateb cadarnhaol gan y rhieni a’r cymdogion i ddatblygiad yr ysgol y bore ‘ma wedi bod yn wych ac wedi dangos bod rhai o’r anawsterau wedi bod yn werth yr ymdrech.”

Mae’r estyniad newydd yn cynnwys neuadd newydd a thair ystafell ddosbarth yng nghefn yr ysgol ac mae derbynfa, swyddfa ac ystafell staff newydd ym mlaen yr ysgol. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru oherwydd y galw cynyddol am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngogledd y Sir. O ganlyniad i’r prosiect, mae pob llety dros dro wedi mynd oddi ar y safle.

Ysgol Twm o’r Nant

Cwblhawyd yr estyniad i Ysgol Twm o’r Nant yn mis Awst 2014. Mae’r prosiect wedi ei gyllido gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i gefnogi y cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir.

Mae’r prosiect yn cynnwys dau estyniad:

Mae’r estyniad blaen yn cynnwys derbynfa, swyddfa weinyddol, ystafell athrawon, ystafell pennaeth ac ystafell gyfarfod newydd. Isod mae lluniau o’r estyniad blaen o’r cynllun gwreiddiol i’r adeilad gorffenedig.

 

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Mae’r estyniad cefn yn fwy ac yn cynnwys neuadd newydd, tri dosbarth ac ystafell gotiau newydd. O ganlyniad i’r prosiect mae y cabannau wedi eu cymryd oddi ar y safle. Cadwch eich llygaid ar ein blog am fwy o luniau o Ysgol Twm o’r Nant ar ei newydd wedd.

Ysgol Twm o’r Nant

Mae disgwyl y bydd y prosiect £1.4 miliwn i ymestyn Ysgol Twm o’r Nant yn cael ei gwblhau ym mis Awst 2014, mae hyn wedi cael ei hariannu gan Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Isod mae lluniau diweddaraf o’r ysgol. Yn ystod gwyliau’r ysgol bydd y gwaith adeiladu yn dod i ben yn barod ar gyfer tymor yr hydref.

 

 

Ysgol Twm o’r Nant

Mae disgwyl y bydd y prosiect £1.4 miliwn i ymestyn Ysgol Twm o’r Nant yn cael ei gwblhau ym mis Awst 2014, mae hyn wedi cael ei hariannu gan Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Mae’r gwaith adeiladu wedi ei rannu’n ddwy ran. Yn yr estyniad ym mlaen yr ysgol bydd derbynfa newydd a fydd yn cynnwys ystafell newydd i’r staff, ystafell aros, ystafell gyfarfod, swyddfa i’r Pennaeth a swyddfa weinyddol.

Gwaith ar y safle:

 

4

Mae’r estyniad yng nghefn yr ysgol yn cynnwys neuadd ysgol newydd a 3 ystafell ddosbarth newydd. Mae’r estyniad yn y cefn wedi cymryd peth o gae chwarae’r ysgol ac o ganlyniad mae’r pridd a gloddiwyd wedi cael ei gadw ar y safle a’i ddefnyddio i wella gweddill y cae. Mae’r cam hwn hefyd wedi gwneud i ffwrdd â’r angen i gludo 4000 tunnell fetrig o bridd o’r safle gan osgoi cost amgylcheddol sylweddol ac aflonyddwch i drigolion lleol.

Gwneir yr holl waith yma tra bo tair ysgol yn parhau i fod ar agor ar yr un campws. Mae’r cwmni adeiladu wedi cydymffurfio â chyfyngiadau safle llym sy’n cyfyngu ar fynediad pan fydd disgyblion yn cyrraedd ac yn gadael y safle.

Mae gwaith caled y cwmni adeiladu wedi cael ei gydnabod gan reolwr y safle a dyfarnwyd Gwobr Contractwr Ystyriol iddynt am Berfformiad y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth.

Disgyblion yn cael cipolwg ymlaen llaw fis diwethaf:

DSCF0639

Croeso

Croeso i flog Addysg gan Gyngor Sir Ddinbych, Gogledd Cymru.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Mae gennym gyfrifoldeb i adolygu’r ddarpariaeth mewn ysgolion o bryd i’w gilydd, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu’r addysg orau i ddisgyblion, fel y gallant gyflawni eu llawn botensial. Er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth addysg o ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy yn y tymor hir. Hefyd i wella ansawdd adeiladau a chyfleusterau ysgolion ac i ddarparu’r nifer cywir o leoedd mewn ysgolion, o’r math cywir, yn y lleoliadau cywir.

Beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
Ar hyn o bryd mae tîm rhaglen moderneiddio addysg Sir Ddinbych yn gweithio ar y prosiectau canlynol:

  • Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd – prosiect £1.4miliwn i ymestyn ac adnewyddu’r safle presennol yng Nghynwyd.Mae’r gwaith ar safle Cynwyd wedi ‘i gwblhau gyda mân broblemau i’w datrys.Bydd hyn yn galluogi cau safle Llandrillo ar ddiwedd yr haf.
  • Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn – prosiect £3.4miliwn i ymestyn ac adnewyddu, ar y safle o fis Tachwedd 2014, cwblhau erbyn mis Mehefin 2016.
  • Ysgol Newydd Y Rhyl –datblygiad £25 miliwn  ar gyfer ysgol newydd sbon a leolir ar gaeau chwarae’r ysgol bresennol, bydd yna le i 1,200 o ddisgyblion yn ogystal â safle ar gyfer 45 o ddisgyblion o ysgol arbennig gyfagos, Ysgol Tir Morfa.Ar y safle o fis Medi 2014, cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2015.
  • Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy – prosiect £16 miliwn i ymestyn, ailfodelu ac ailwampio’r ysgol.Bydd y contractwr a ffafrir yn cael ei benodi ar ddechrau’r haf a bydd hyn yn galluogi’r gwaith dylunio manwl i ddechrau.Mae’r amserlen gychwynnol yn rhagweld y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn yr haf 2015 a chwblhau ym mis Awst 2017.
  • Ysgol Y Llys, Prestatyn – prosiect £2.9 miliwn ar gyfer ymestyn ac adnewyddu’r ysgol.Ar y safle nawr, mae’r prosiect i fod i drosglwyddo mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol 2014/5.
  • Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych – prosiect £1.4 miliwn ar gyfer ymestyn ac ailfodelu’r ysgol.Ar y safle nawr, mae’r prosiect i fod i drosglwyddo erbyn mis Awst 2014.
  • Adolygiad Ardal Rhuthun –Yn dilyn cyfnod o ymgynghori ffurfiol rhoddodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyaeth i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 ac agor ysgol ardal ar ddau safle newydd ar 1 Medi gyda’r bwriad o ddod â’r ddwy ysgol at ei gilydd ar un safle yn y dyfodol.Hefyd cytunwyd i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014 gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni.

Bydd y blog hwn yn canolbwyntio ar brosiectau unigol yn y dyfodol.  Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych am fwy o wybodaeth.