Yn dilyn penodiad llwyddiannus y contractwr adeiladu TG Williams, mae’r gwaith bellach wedi cychwyn ar safle’r ganolfan Gymraeg newydd a fydd yn cael ei lleoli o fewn yr hen adeilad bloc gwyddoniaeth ar safle Ysgol Glan Clwyd. Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan grant cyfalaf addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar.
Bydd gwaith adnewyddu helaeth yn cael ei wneud i drawsnewid yr hen floc gwyddoniaeth i ganolfan a fydd yn darparu darpariaeth Gymraeg ar gyfer pob oedran gan gynnwys disgyblion cyn-ysgol, cymorth i Hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg yn CA2 a 3, cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau iaith Gymraeg a sylfaen bosibl ar gyfer partneriaid darparu’r Gymraeg. Yn ogystal, bydd yr adeilad yn darparu lleoliad ar gyfer darparu cyrsiau sabothol gan Brifysgol Bangor a fydd yn hybu sgiliau iaith athrawon.
Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, “Bydd y ganolfan Gymraeg hon yn gaffaeliad mawr i’r awdurdod a bydd yn safle allweddol ar gyfer cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Ddinbych 2017 – 2020. Mae’r cynllun hwn yn nodi gweledigaeth ac ymrwymiad tymor hir i weld pob plentyn a pherson ifanc yn Sir Ddinbych yn gadael addysg amser llawn yn gymwys ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y Ganolfan hefyd yn adnodd hanfodol i helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050. ”
Dylid cwblhau’r gwaith ar y Ganolfan a pharcio cysylltiedig yng ngwanwyn 2020.