Ysgol Bro Dyfrdwy

Ysgol Maes Hyfryd, Cynwyd ac Ysgol Llandrillo ar 31 Rhagfyr 2012. Agorodd yr ysgol ardal newydd, Ysgol Bro Dyfrdwy ar 1 Ionawr 2013 yn gweithredu i ddechrau ar draws safle Cynwyd a Llandrillo dan brifathrawiaeth Mrs Eirian Owen.

Safle Cynwyd oedd y dewis a ffefrir ar gyfer rhaglen o greu estyniad ac adnewyddu a fyddai’n darparu ysgol capasiti 105 Llawn Amser.

Bydd Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd, yn agor yn swyddogol ar ei newydd gwedd ym mis Medi 2014 yn dilyn buddsoddiad o £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Sir Ddinbych. Mae’r cyfleuster modern hwn yn cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd, cyfarpar TGCh o’r radd flaenaf, cyfleusterau chwaraeon newydd a chymwysterau gwyrdd rhagorol

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Cabinet Addysg: “Ein gweledigaeth oedd creu cyfleuster modern ac addas a fyddai’n yn gwella profiad addysgol cenhedlaeth newydd o ddysgwyr o Gynwyd a Llandrillo. Mae’r freuddwyd honno wedi ei gwireddu ac mae’r adeiladau newydd yn werth eu gweld. Mae’r disgyblion yn gallu defnyddio neuadd y pentref, sydd drws nesaf i’r ysgol, a defnyddio cyfleusterau chwaraeon newydd sbon danlli. Rydym ni wrth ein bodd efo’r canlyniad terfynol.”

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Croeso

Croeso i flog Addysg gan Gyngor Sir Ddinbych, Gogledd Cymru.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Mae gennym gyfrifoldeb i adolygu’r ddarpariaeth mewn ysgolion o bryd i’w gilydd, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu’r addysg orau i ddisgyblion, fel y gallant gyflawni eu llawn botensial. Er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth addysg o ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy yn y tymor hir. Hefyd i wella ansawdd adeiladau a chyfleusterau ysgolion ac i ddarparu’r nifer cywir o leoedd mewn ysgolion, o’r math cywir, yn y lleoliadau cywir.

Beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
Ar hyn o bryd mae tîm rhaglen moderneiddio addysg Sir Ddinbych yn gweithio ar y prosiectau canlynol:

  • Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd – prosiect £1.4miliwn i ymestyn ac adnewyddu’r safle presennol yng Nghynwyd.Mae’r gwaith ar safle Cynwyd wedi ‘i gwblhau gyda mân broblemau i’w datrys.Bydd hyn yn galluogi cau safle Llandrillo ar ddiwedd yr haf.
  • Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn – prosiect £3.4miliwn i ymestyn ac adnewyddu, ar y safle o fis Tachwedd 2014, cwblhau erbyn mis Mehefin 2016.
  • Ysgol Newydd Y Rhyl –datblygiad £25 miliwn  ar gyfer ysgol newydd sbon a leolir ar gaeau chwarae’r ysgol bresennol, bydd yna le i 1,200 o ddisgyblion yn ogystal â safle ar gyfer 45 o ddisgyblion o ysgol arbennig gyfagos, Ysgol Tir Morfa.Ar y safle o fis Medi 2014, cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2015.
  • Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy – prosiect £16 miliwn i ymestyn, ailfodelu ac ailwampio’r ysgol.Bydd y contractwr a ffafrir yn cael ei benodi ar ddechrau’r haf a bydd hyn yn galluogi’r gwaith dylunio manwl i ddechrau.Mae’r amserlen gychwynnol yn rhagweld y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn yr haf 2015 a chwblhau ym mis Awst 2017.
  • Ysgol Y Llys, Prestatyn – prosiect £2.9 miliwn ar gyfer ymestyn ac adnewyddu’r ysgol.Ar y safle nawr, mae’r prosiect i fod i drosglwyddo mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol 2014/5.
  • Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych – prosiect £1.4 miliwn ar gyfer ymestyn ac ailfodelu’r ysgol.Ar y safle nawr, mae’r prosiect i fod i drosglwyddo erbyn mis Awst 2014.
  • Adolygiad Ardal Rhuthun –Yn dilyn cyfnod o ymgynghori ffurfiol rhoddodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyaeth i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 ac agor ysgol ardal ar ddau safle newydd ar 1 Medi gyda’r bwriad o ddod â’r ddwy ysgol at ei gilydd ar un safle yn y dyfodol.Hefyd cytunwyd i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014 gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni.

Bydd y blog hwn yn canolbwyntio ar brosiectau unigol yn y dyfodol.  Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych am fwy o wybodaeth.