Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol, y tro hwn am brosiect ailddatblygu gwerth £25 miliwn yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Cyflwynir y wobr flynyddol gan y Consortiwm Awdurdodau Lleol yng Nghymru (CLAW).
Mae’r prosiect yn cynnwys adeilad tri llawr newydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl sydd hefyd yn gartref i 45 o ddisgyblion Ysgol Tir Morfa, yr ysgol arbennig gymunedol leol. Adeiladwyd y cyfleuster newydd ar gaeau chwarae hen safle Ysgol Uwchradd y Rhyl ger Canolfan Hamdden y dref. Pan gwblhawyd yr adeilad newydd cafodd yr hen ysgol ei dymchwel er mwyn creu caeau chwarae newydd.
Comisiynodd Adran Addysg y Sir dîm Cynnal, Adeiladu a Dylunio Sir Ddinbych i greu ysgol newydd yn lle Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, ac aethant ati i wneud hynny mewn partneriaeth â Willmott Dixon, Partner Adeiladwaith, a Mott McDonald, Ymgynghorydd.
Mae’r gwobrau ar agor i bob aelod o CLAW a’u nod yw gwobrwyo a chydnabod rhagoriaeth mewn dylunio ac adeiladwaith gyda’r enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid annibynnol. Roedd y wobr eleni’n canolbwyntio ar gynaladwyedd (amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd) ymgysylltiad â rhanddeiliad a darparu manteision ar gyfer cymunedau.
Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Asedau: “Cyflwynodd y tîm gais am y wobr Prosiect y Flwyddyn oherwydd eu bod yn teimlo mai’r ethos o bartneriaeth, a oedd mor amlwg drwy gydol y cynllun, oedd yn allweddol i’w lwyddiant.
“Cwblhawyd y prosiect yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2016 ac mae’r ysgol– y mae staff dysgu wedi’i disgrifio fel ‘ysgol eu breuddwydion” – wedi derbyn adborth gwych. Rydym wrth ein bodd fod ein hymdrechion unwaith eto wedi’u cydnabod gan y diwydiant fel enghraifft o ragoriaeth wrth ddylunio a darparu prosiect mor sylweddol ac mor flaenllaw yn Sir Ddinbych.
“Hoffwn gymeradwyo’r tîm cyfan am eu hymdrechion, eu hymrwymiad a’u hymroddiad. Mae derbyn y fath anrhydedd unwaith eto ar ôl llwyddiant tebyg gyda’r prosiect Twm o’r Nant y llynedd heb os yn bluen fawr yn eu cap”.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Cabinet Arweiniol dros Addysg: “Mae’r prosiect wedi darparu cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer ysgolion ac roedd yn bosibl o ganlyniad i arian a gafwyd drwy raglen gyfalaf y Cyngor a rhaglen Ysgolion 21G Llywodraeth Cymru – rhaglen sy’n dangos gwir ymrwymiad i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc drwy ddarparu cyfleusterau addas i’r pwrpas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hon yn enghraifft wych o sut y mae adrannau’r Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd a gyda phartneriaid i ddarparu prosiectau neilltuol”.
Meddai Pennaeth yr ysgol, Claire Armistead: “Alla’ i ddim coelio mai ni biau hon – mae’n anhygoel! Allwch chi ddim cerdded drwy fan hyn heb weld drwy bob dosbarth, drwy bob ardal. Allwn i ddim fod wedi dychmygu pa mor dda fyddai’r canlyniad – mae’n well na fy mreuddwyd orau!”