Cynnydd Ysgol Gatholig Crist y Gair

Mae wedi bod yn hanner tymor prysur wrth i Ysgol Gatholig Crist y Gair agor ei drysau i ddisgyblion ar y 6ed o Fedi. Mae’r ysgol newydd wedi disodli ysgol gynradd Ysgol Mair ac ysgol uwchradd Gatholig Bendigedig Edward Jones a bydd yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion amser llawn rhwng 3-11 a 500 o ddisgyblion 11-16 oed.

Mae staff a disgyblion yn ymgartrefu’n dda i’w cartref newydd wrth i gam nesaf y prosiect fynd rhagddo gyda dymchwel adeiladau Ysgol Mair ac Bendigedig Edward Jones yn dod yn eu blaenau yn dda.
Bydd y dymchwel yn parhau am yr wythnosau nesaf ac yna bydd y ffocws ar dirlunio’r ardaloedd chwaraeon / chwarae. Disgwylir y bydd y cam hwn wedi’i gwblhau erbyn Ebrill 2020.

Ariennir yr ysgol newydd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Ysgol Gatholig Crist y Gair yn lansio gwisg ysgol newydd

Mae gwisg ysgol newydd wedi cael ei lansio ar gyfer ysgol ffydd 3-16 newydd gwerth £23 miliwn yn y Rhyl.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn agor ym mis Medi a bydd gan y wisg ysgol themâu cyffredin ar gyfer disgyblion ar draws yr oedrannau ond bydd y rheiny ym Mlwyddyn 7 ac uwch yn gwisgo blaser i gydnabod eu bod wedi symud i’r ysgol uwch.

Mae’r ysgol, a fydd yn gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol: “Roeddem yn awyddus i ymgynghori’n eang ynglŷn â syniadau am y wisg ysgol newydd.

“Roeddem yn hapus iawn â lefel uchel yr ymateb a gawsom gan rieni i’r holiadur a anfonwyd allan a derbyniwyd bron i 250 o ymatebion.

“Cawsom hefyd ymateb gwych gan ddisgyblion yn y ddwy ysgol lle buom yn trafod yr opsiynau gyda’r cynghorau ysgol.”

Cafodd y Llywodraethwyr gyfarfod â chyflenwyr lleol i drafod sut y gellid datblygu syniadau’r disgyblion cyn iddyn nhw gymeradwyo’r wisg ysgol newydd yn derfynol.

Ychwanegodd Mrs Greenland: “Mae’r wisg ysgol yn adlewyrchu logo ein hysgol newydd a chafodd y lliwiau eu hysbrydoli gan ddyluniadau a gyflwynwyd gan ddisgyblion presennol Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones. Hyderwn ein bod wedi datblygu gwisg ysgol sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth.”

Mae’r Llywodraethwyr hefyd yn edrych ar bosibiliadau ariannu eraill i gynorthwyo teuluoedd â’r gost.

Christ the word uniform pic

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Mae’n wych gweld cynnydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn cyrraedd carreg filltir arall wrth lansio gwisg newydd i’r ysgol.

“Mae’r ffaith bod disgyblion presennol wedi cymryd rhan uniongyrchol yn dangos y math o awyrgylch sy’n cael ei chreu yn yr ysgol.

“Mae cefnogi pobl ifanc yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan ein Cynllun Corfforaethol a hyd yma mae dros £90 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ysgolion Sir Ddinbych sydd wedi gweld dros 3,500 o ddisgyblion yn elwa o well cyfleusterau.”

 

Ymweld â safle’r ysgol Gatholig fel rhan o’r ymgyrch adeiladu genedlaethol

Agorwyd safle ysgol Gatholig gwerth £ 23 miliwn i westeion i lansio ymgyrch adeiladu genedlaethol.

Fel rhan o ymgyrch Drysau Agored, cafodd menter dan arweiniad Build UK, mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), gyfle i weld sut yr oedd y gwaith o greu’r adeilad newydd yn mynd rhagddo yn Ysgol Gatholig 3-16 Crist y Gair yn Y Rhyl .

Mae’r ysgol, a fydd yn darparu addysg ar gyfer 420 o ddisgyblion 3-11 oed a 500 o ddisgyblion 11-16 oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd yr ysgol, a fydd yn disodli Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones, yn rhan o Esgobaeth Wrecsam a Kier Construction yw’r prif gontractwr.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol dros Addysg, Plant, Pobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae’n wych gweld gwaith yn mynd rhagddo cystal ar y safle ac rydym wedi bod yn cydweithio â Kier Construction ac Esgobaeth Wrecsam ar y prosiect hwn.

“Bydd yr ysgol newydd hon yn darparu cyfleusterau modern i blant yn Sir Ddinbych i roi’r amgylchedd dysgu gorau posibl iddynt.

“Mae Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn darparu amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer plant a phobl ifanc y sir. Mae’r rhaglen gyfalaf wedi gweld buddsoddiad enfawr a fydd yn galluogi amgylchedd addysg gwell i’n plant, yn flaenoriaeth i ni o dan ein Cynllun Corfforaethol. ”

Cadarnhawyd Amanda Preston fel Pennaeth Ysgol Gatholig 3-16 Crist y Gair, a fydd yn agor ym mis Medi.

Hyd yn hyn mae mwy na £ 90 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ysgolion Sir Ddinbych sydd wedi gweld mwy na 3,500 o ddisgyblion yn elwa o gyfleusterau gwell gan gynnwys ysgol newydd gwerth £ 24 miliwn o leoedd newydd i Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, estyniad ac adnewyddu £ 16.5m. ar gyfer Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy a safle newydd £ 10.5 miliwn ar y cyd ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.

Mae’r ymgyrch Drysau Agored yn cynnig cyfle i’r cyhoedd ddarganfod sut mae’r adeiladau a’r strwythurau yn eu cymuned wedi’u hadeiladu.

Mae hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu am yr ystod amrywiol o sgiliau a phroffesiynau sydd eu hangen ar y safle – mae ystadegau diweddaraf y CITB yn amcangyfrif y bydd 168,500 o swyddi adeiladu yn cael eu creu ledled y DU rhwng 2019 a 23.

Dywedodd Martin Walsh, rheolwr prosiect Kier Construction: “Mae Wythnos Agored Drysau yn gyfle delfrydol i arddangos safle adeiladu byw i gymunedau lleol. Mae’r digwyddiad yn dangos technegau adeiladu modern yn cael eu rhoi ar waith ar brosiectau ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y nifer fawr o gyfleoedd gyrfa mewn adeiladu. ”

Gall y cyhoedd archebu lle i ymweld â safle’r ysgol fel rhan o’r ymgyrch hon ar Fawrth 21 yn y ddolen ganlynol https://opendoors.construction/site/31

Logo newydd ar gyfer Ysgol Gatholig Crist y Gair wedi’i ddatgelu

Mae’r logo newydd ar gyfer Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl wedi’i ddatgelu

Fe’i lansiwyd yn ystod noson agored Blwyddyn 7 yr ysgol newydd  gwerth £23miliwn, a fydd yn cymryd lle Ysgol Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones ac y gobeithir ei hagor yn hydref 2019.

Caiff yr ysgol, a fydd yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser 3-11 a 500 o ddisgyblion 11-16, ei hariannu gan bartneriaeth Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

Gofynnodd corff llywodraethu dros dro’r ysgol i ddisgyblion yn y ddwy ysgol roi syniadau ar gyfer y logo, a datblygwyd y rhain gan ddylunwyr a fu’n cydweithio’n agos â’r llywodraethwyr.

Yn dilyn llawer o ymgynghori, cytunwyd ar ddyluniad sy’n cynnwys colomen, cangen olewydd a Beibl, sy’n amlygu enw’r ysgol newydd.

Dywedodd Gill Greenland, cadeirydd corff llywodraethu dros dro ysgol Crist y Gair: “Lansiwyd y logo newydd i rieni a disgyblion yn ein noson agored lwyddiannus ac roeddem yn falch iawn â’r ymateb. 

“Roedd yn wych gweld y disgyblion sydd wedi datblygu’r syniadau hyn yn gweld eu lluniau cychwynnol yn cael eu datblygu i fod yn rhan o logo newydd Crist y Gair.”

PrintMeddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Hoffwn ddiolch i’r disgyblion am eu holl waith caled yn dylunio’r logo newydd ar gyfer Crist y Gair.

“Mae gwaith adeiladu’r ysgol yn datblygu’n dda iawn, a bydd yr ysgol newydd ffantastig hon yn ein helpu i gyrraedd y nod o ddarparu cyfleusterau ysgol modern ar draws Sir Ddinbych sy’n ehangu addysg disgyblion ymhellach.”

Mae Kier Construction wedi’u penodi gan y Cyngor fel y prif gontractwyr ar gyfer yr ysgol newydd, a gaiff ei darparu ar gyfer Esgobaeth Wrecsam.

 

Mae’r corff llywodraethu dros dro hefyd wedi lansio holiadur ynghylch y wisg ysgol newydd sydd ar gael ar-lein  https://www.surveymonkey.co.uk/r/WYSK3SF  

Y dyddiad cau yw 7 Tachwedd a chaiff unrhyw syniadau dderbynnir eu cyflwyno i’r llywodraethwyr wrth iddynt benderfynu ar wisg ysgol newydd.

 

Enw ysgol ffydd newydd y Rhyl wedi’i ddatgelu wrth i waith ddechrau ar y safle

Mae gwaith wedi dechrau ar Ysgol Gatholig newydd gwerth £23miliwn yn y Rhyl.

Cafodd gwesteion eu gwahodd gan Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, i seremoni torri tywarchen ddydd Gwener ar safle’r datblygiad a fydd yn cymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones.

Enw’r ysgol fydd Ysgol Gatholig Crist y Gair ac fe’i hariennir mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Mae’r safle drws nesaf i’r ddwy ysgol lle mae gwaith galluogi eisoes wedi digwydd ac mae’r gwaith llawn bellach ar y gweill.

Mae cwmni Kier Construction wedi cael ei benodi gan y Cyngor fel prif gontractwr yr ysgol newydd a ddarperir ar gyfer Esgobaeth Wrecsam.

Disgwylir i’r adeilad newydd agor yn hydref 2019 a bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn cael eu dymchwel cyn i waith allanol ddechrau ar yr ardaloedd chwaraeon / chwarae ar ôl cwblhau adeilad yr ysgol yn barod ar gyfer haf 2020. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed yn yr ysgol newydd. 

 members pic

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg: “Rwy’n hynod falch bod gwaith yn symud ymlaen ar y prosiect cyffrous hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd â chwmni Kier Construction ac Esgobaeth Wrecsam. “Mae’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi i gael amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych.

 “Mae llawer iawn o fuddsoddi wedi bod drwy’r rhaglen gyfalaf a bydd hynny’n caniatáu i’n plant ni gael gwell amgylchedd i ddysgu, sy’n flaenoriaeth i ni o dan ein Cynllun Corfforaethol.”.Mae Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych yn cydweithio’n agos ag Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ddisgyblion yn ystod y gwaith adeiladu.Dywedodd yr Esgob Brignall: “Bydd hon yn ysgol flaenllaw i’r Eglwys Gatholig ac i Sir Ddinbych. Rwy’n hynod falch o gael bod yn rhan o’r prosiect cyfan ac yn y seremoni torri tywarchen ar ddechrau newydd mor fawreddog.“Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn un wych ac maent yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gorau ar gyfer y plant.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ysgol yn agor.  Nid yn unig y bydd yn darparu addysg, ond bydd hefyd yn cynnig y cyfleoedd eraill hynny y bydd ysgol yn y 21ain Ganrif a’r Eglwys yn ceisio eu darparu a bydd yn rhan o’r gymuned gyfan.”

Dywedodd Bob Adams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Kier: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi dechrau gweithio ar y cyfleuster addysgol newydd hwn i Gyngor Sir Ddinbych. “Byddwn yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol i adeiladu’r adeilad newydd, a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i helpu’r myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned leol i gynyddu cyfleoedd gwaith a datblygu sgiliau.”

 

Gwaith adeiladu i ddechrau

Mae gwaith galluogi wedi eu cwblhau gan Kier Construction ar safle yr ysgol newydd 3-16 Catholig yn y Rhyl sydd yn agor y ffordd i’r prif waith adeiladu ddechrau yn Mehefin. Mae’r lluniau isod yn dangos y cynnydd ar y safle a mae palisau wedi eu codi rhwng Ysgol Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones.

Bydd yr Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n agos â’r ddwy ysgol i reoli’r cam hwn o’r prosiect er mwyn sicrhau fod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n ymarferol bosib ar y disgyblion.

Mae disgyblion Ysgol Gatholig y Santes Fair wedi croesawu Rheolwr y Prosiect Martin Walsh o Kier Construction ynghyd a Kieran, mascot Iechyd a diogelwch y cwmni i drafod iechyd a diogelwch ar safle adeiladu.

Bu i ddisgyblion o flynyddoedd 3,4,5 a 6 wedi gwrando ar gyflwyniad gan Martin a oedd wedi adnabod nifer o agweddau diogelwch ar safle adeiladu byw. Cafodd disgyblion y cyfle i holi Kieran a Martin gyda unrhyw gwestiynau ynglŷn a’r prosiect.

Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

 

Ysgol Gatholig newydd i blant 3-16 oed yn cael golau gwyrdd

Mae’r Ysgol Gatholig 3-16 newydd yn y Rhyl wedi symud gam yn nes wrth i ganiatâd cynllunio gael ei roi i adeiladu’r ysgol newydd a gwneud gwaith cysylltiedig ar y safle.  Daeth disgyblion o Ysgol Mair ac Ysgol Y Bendigaid Edward Jones (yn y llun) at ei gilydd i ddathlu’r newyddion hwn a fydd yn golygu y byddant yn dechrau cael eu haddysgu mewn cyfleusterau newydd sbon ym mlwyddyn academaidd 2019/2020.  Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Mae hyn yn adlewyrchu blaenoriaeth y Cyngor i fuddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc y sir.

Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.

Mae cwmni adeiladu Kier wedi cael ei benodi i fod yn brif gontractwr ac mae gwaith dechreuol eisoes yn digwydd yn yr ysgolion sef gwaith torri coed hanfodol a chyfyngedig a dymchwel rhan o floc Ysgol Y Bendigaid Edward Jones.

Disgwylir i waith ddechrau ar y safle cyfan ym mis Mai a disgwylir i’r adeilad newydd fod yn barod erbyn Hydref 2019.

DSC00980a

Gwyliwch… Hedfaniad drwy’r ysgol newydd arfaethedig Gatholig 3 – 16 yn y Rhyl.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cyn-cynllunio ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig Gatholig 3-16 yn y Rhyl cafodd hedfaniad drwy’r datblygiad ei ddangos i’r cyhoedd mewn digwyddiadau yr wythnos diwethaf.

Gallwch weld yr hedfaniad yma:

Mae’r ymgynghoriad yn parhau ar agor a gallwch ddod o hyd i gopïau o’r dogfennau ymgynghori ar wefan Sir Ddinbych:

www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau

Dyddiad cau yr ymgynghoriad cyn cynllunio ydi y 25ain o  Dachwedd 2017.