Ysgol Llywelyn, Y Rhyl

Mae gwaith nawr wedi’i gwblhau ar wella’r maes parcio yn Ysgol Gynradd Llywelyn, y Rhyl. Mae’r cynllun wedi gwella’r maes parcio presennol trwy farcio llefydd parcio a dynodi llwybrau troed a mannau croesi yn glir. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Roedd ail gam y gwaith yn cynnwys creu ardal parcio newydd i staff ac ymwelwyr gyda tua 30 o lefydd parcio ar safle’r ysgol. Roedd yr ardal yn laswelltir gynt nad oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol.

Mae’r prosiect hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ysgol gan ei fod wedi helpu gyda llif y traffig yn ystod cyfnodau prysur yn yr ysgol fel amser mynd adref ac mae hefyd wedi gwella diogelwch y disgyblion yn mynd a dod o’r ysgol.

IMG-20141216-00035 IMG-20141217-00048

Gwelliannau Parcio Ysgol Llywelyn

Mae gwaith ar fin dechrau i wneud gwelliannau i ardal parcio Ysgol Gynradd Llywelyn, y Rhyl. Bydd y cynllun yn cael ei wneud mewn 2 gam gyda’r cam cyntaf yn cael ei gwblhau cyn i’r plant ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Bydd y cam cyntaf yn gwella’r maes parcio presennol trwy farcio llefydd parcio a dynodi llwybrau troed a mannau croesi yn glir.

Yr ail gam yw creu ardal parcio newydd i staff ac ymwelwyr gyda thua 30 o lefydd parcio ar safle’r ysgol. Ar hyn o bryd dim ond glaswellt yw’r ardal ac nid oes unrhyw ddefnydd iddo gan yr ysgol. Y gobaith yw cwblhau’r gwaith erbyn hanner tymor mis Hydref.

Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ysgol gan y bydd hefyd yn helpu gyda llif y traffig yn ystod cyfnodau prysur fel amser mynd adref o’r ysgol. Bydd hefyd yn helpu gyda’r sefyllfa parcio o gwmpas yr ardaloedd preswyl cyfagos.

~0150289

Darpariaeth parcio presennol