Fel rhan o’m prentisiaeth gyda Cyngor Sir Ddinbych, mae’n ofynnol i mi weithio gyda gwahanol dimau o fewn i’r Adran Addysg . Gan fy mod yn cymryd mwy o ran gyda’r tîm Moderneiddio Addysg roedd y cyfle i fynychu cyfarfod cynnydd a thaith o gwmpas Ysgolion newydd Glasdir yn hanfodol gan yr wyf yn gyn-ddisgybl Ysgol Stryd y Rhos.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych a llywodraeth Cymru fel rhan o ysgolion a rhaglen addysg yr 21ain ganrif.
Ar ôl cyrraedd y safle bu i mi a’r Rheolwr Prosiect (Carwyn Edwards) fynd i swyddfa’r safle fynychu’r 10fed cyfarfod cynnydd, roedd eraill yn mynychu’r cyfarfod yn Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a hefyd rhai o gontractwyr Wynne Construction.
Roedd y cyfarfod ei hun yn ddiddorol iawn wrth i’r aelodau yn gyntaf edrych ar gofnodion eu cyfarfod diwethaf, ac ar ôl i bawb gytuno ar y cofnodion blaenorol, fe wnaeth aelodau Wynne Construction ein cymryd drwy’r gwaith sy’n mynd rhagddo, yn cael ei baratoi neu wedi’i gwblhau. Bu iddynt hefyd gadarnhau eu bod ar amser gyda’r datblygiad. Roedd y cyfarfod yn ffordd wych o gael cipolwg ar sut mae popeth wedi’i drefnu’n gamau ac o ystyried ei derfyn amser ei hun i’w gwblhau, ynghyd â gweld sut mae’r adeilad yn dod at ei gilydd a bodloni disgwyliadau Cyngor Sir Ddinbych.

Pan oedd y cyfarfod wedi gorffen, ac ar ôl cael esgidiau caled, siaced gwelededd uchel, helmed diogelwch a chamera cawsom fynd ar daith o gwmpas yr ysgolion newydd. Ddechreuwyd ar y daith gyda’r rhan o’r adeilad a fydd yn cael ei feddiannu yn y pen draw gan Ysgol Stryd y Rhos. Wrth i ni fynd o amgylch yr adeilad, gallech weld sut yr oedd yr ysgol yn cymryd siâp. Yna fe wnaethom ein ffordd i flaen yr ysgol lle gallech weld y prif faes parcio. Roedd yn edrych yn fwy na’r disgwyl. Wrth ddod yn ôl at flaen yr ysgol, dysgais y bydd yr ysgolion yn cael neuadd ar wahân lle byddant yn perfformio eu holl wasanaethau ac roeddwn i yn gallu dychmygu sut y bydd y ddwy ysgol yn dechrau y bore yn canu eu emynau yno. Fe wnaethom ein ffordd y tu mewn i ran Pen Barras a dyma’r tro cyntaf y tu mewn i’r adeilad. Roedd yn syndod gweld pa mor fawr yw’r tu mewn. Dangoswyd i mi y paneli gwydr a osodwyd a sut bydd y rhain yn sicrhau bod y golau naturiol yn cael ei arwain i’r ystafelloedd dosbarth a fydd yn arbed trydan yn y pen draw.
Fe wnes i fwynhau’r holl brofiad o’r cyfarfod ar y dechrau i’r daith o amgylch yr ysgolion ar y diwedd. Bydd gan ddisgyblion gyfleusterau gwych pan fydd y gwaith yn gorffen. Roeddwn wedi cymryd rhan mewn ymweliad ysgol yn flaenorol ond roeddwn yn cymryd rhan mwy yn ystod yr ymweliad hwn gan fy mod a mwy o wybodaeth am y datblygiad. Roedd yn ddefnyddiol iawn mynd y tu mewn ac gweld yn fanylach sut y mae’r tîm moderneiddio addysg yn delio a’r datblygiad hwn.
Kieran Smith
Prentis Modern
Hoffi hwn:
Hoffi Llwytho...