Mae disgyblion Ysgol Mair ac Ysgol y Benedigaigd Edward Jones y Rhyl wedi sylwi tra’n cyrraedd yn ol o’u gwyliau y cynnydd sydd wedi ei gyflawni dros yr haf ar adeilad newydd Ysgol Gatholig Crist y Gair a fydd yn agor yn nhymor yr Hydref 2019. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed yn yr ysgol newydd. Mae’r prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Ysgol Uwchradd Gathdig y Bendigaid Edward Jones
Diweddariad ar Ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl
Mae Sir Ddinbych yn falch o dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer yr ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl wedi ei gymeradwyo. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Y cynnig yw codi adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed yn lle Ysgol Mair (ysgol gynradd Gatholig) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams: “Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n ffynhonnell balchder a hyder cenedlaethol. Mae ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif yn chwarae rhan allweddol yn hyn a dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au. ” Rwy’n falch iawn bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect hwn o £ 24 miliwn yn cael effaith gadarnhaol ar addysg a dysgu yn Sir Ddinbych. Bydd yr ysgol newydd yn adnodd hanfodol i’r gymuned gyfan.
Dywedodd yr Esgob Peter M. Brignall o Esgobaeth Wrecsam: “Rydw i wrth fy modd bod cam pwysig ymlaen i’r prosiect hwn gael ei gyflawni. Bydd y cynnig cyffrous hwn o ysgol 3-16 newydd ac arloesol yn y Rhyl ar gyfer Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn gwella’n sylweddol y cyfleoedd dysgu i’n pobl ifanc, y cyfleusterau, yr adnoddau a’r ethos a ddarperir gan bartneriaeth barhaus a ffrwythlon Llywodraeth Cymru , Yr Awdurdod Lleol a’r Eglwys Gatholig. ”
Meddai’r Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer yr adeilad newydd ar gyfer yr ysgol 3-16 newydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Esgobaeth Wrecsam ar y prosiect hwn wrth i’r Cyngor barhau i fuddsoddi i wella amgylchedd dysgu plant a phobl ifanc y sir.”
Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, y gobaith yw dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Mai.