Mae gwaith wedi ei gwblhau ar y cynllun rheoli traffig gwell yn Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl. Nod y prosiect a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych oedd gwella diogelwch i ddisgyblion, rhieni, staff ac ymwelwyr sy’n mynychu’r ysgol trwy wahanu cerddwyr a cherbydau, gan greu ardal ddynodedig ar gyfer ‘gollwng / casglu’ ar gyfer rhieni a chyfleuster tebyg ar gyfer bysiau. Mae’r cynllun hefyd wedi darparu lle parcio ychwanegol i staff/ymwelwyr ym mlaen yr ysgol.
Y contractwr, E. Jones a’i Fab o Glawddnewydd sydd wedi bod yn gwneud y gwaith gwella, ac mae wedi cael croeso mawr gan breswylwyr lleol, rhieni a staff.
Mae Geraint Davies, Pennaeth Ysgol Dewi Sant, yn falch iawn â’r Cynllun. “Mae’r maes parcio newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gwaith cyffredinol o redeg yr ysgol. Mae tua 170 o geir yn ei ddefnyddio bob bore i ollwng y plant i ffwrdd ac mae hyn yn golygu bod 170 o geir wedi eu cymryd oddi ar Ffordd Rhuddlan y tu allan i’r ysgol i leddfu’r broblem traffig i raddau. Ers i’r maes parcio agor rydym wedi cael nifer o sylwadau cadarnhaol gan ymwelwyr a rhieni ac mae pawb yn cytuno ei fod yn llawer gwell nag o’r blaen. Mae diogelwch disgyblion wedi gwella ac mae golwg cyffredinol yr ysgol yn llawer gwell. Erbyn hyn, mae’n anodd dychmygu sut wnaethom ymdopi cyn i’r maes parcio gael ei greu ac rydym yn ddiolchgar iawn i E. Jones a’i Fab, y contractwr, a Chyngor Sir Ddinbych am eu holl waith caled i’w gyflawni”.
Dywedodd Y Cyng. Jeanette Chamberlain-Jones fod y cynllun yn gweithio’n dda. “Cyn y cynllun, roedd llawer o faterion i breswylwyr lleol, wrth i’w dreifiau gael eu rhwystro ac wrth i bobl barcio mewn safleoedd bws ar y brif ffordd ger yr ysgol. Mae’r gwaith wedi atal hyn ac mae’r ardal o gwmpas yn llai prysur cyn ac ar ôl ysgol pan fydd rhieni yn gollwng ac yn casglu eu plant, gyda phreswylwyr lleol yn rhoi adborth cadarnhaol iawn am y gwelliannau”.
Dywedodd Arwel Roberts, “Fel un o lywodraethwyr Ysgol Dewi Sant a Chynghorydd Sir dros Ruddlan, rwy’n falch iawn gyda’r cynllun traffig gwell yn yr ysgol. Mae gan staff a rhieni well mynediad i’r ysgol ac mae’r dull parcio cerbydau ar gyfer rhieni a staff yn fwy diogel ond yn bwysicach, wrth gwrs, ar gyfer y plant. Da iawn Sir Ddinbych”.