Mae gwaith bellach wedi’i gwblhau ar brosiect £2.9 miliwn Ysgol Y Llys a ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Bydd Ysgol y Llys, Prestatyn yn dathlu cwblhau eu hestyniad diweddar ar yr ysgol mewn Seremoni Agor Swyddogol ddydd Gwener, 27 Chwefror.
Mae’r gwaith diweddar yn yr ysgol wedi cynnwys adeiladu estyniad 9 ystafell ddosbarth a gwaith adnewyddu i rannau o’r adeilad presennol i gynyddu cynhwysedd yr ysgol i 420. Yn ogystal, mae gwaith tirlunio ac allanol wedi creu maes parcio mwy ar y safle a pharth gollwng pwrpasol i’r Ysgol.
Dywedodd y pennaeth, Dyfan Phillips, “Bydd prosiect estyniad yr ysgol yma yn Ysgol y Llys o fudd mawr i’r disgyblion, y staff a chymuned ehangach yr ysgol. Mae’n wych y gall y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yma nawr gael ei ddiwallu yn ffyddiog mewn ysgol yr 21ain ganrif. Rydym yn edrych i’r dyfodol yn hyderus. Er mai ei disgyblion, staff a phobl sy’n gwneud ysgol, ni allwch danbrisio pwysigrwydd cael adeiladau o ansawdd uchel i addysgu ynddynt. Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu dyfodol gwell ar gyfer ein disgyblion.”
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’r prosiect yma’n newyddion gwych i’r ysgol ac yn dangos ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn gwella ysgolion y sir a’u gwneud nhw’n addas i ddarparu cwricwlwm modern.”