Ysgol Esgob Morgan

Ar 1 Medi 2015 bydd ysgol iau Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy yn newid o fod yn ysgol gymunedol i fod yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir yn Wirfoddol.

Mae Sir Ddinbych wedi gweithio’n agos gyda’r Eglwys yng Nghymru dros y deuddeg mis diwethaf i sicrhau trosglwyddiad esmwyth yn ystod y cyfnod hwn o newid. Mae’r Corff Llywodraethu Dros Dro wedi cytuno na fydd llawer yn newid i’r disgyblion sydd eisoes yn mynychu’r ysgol; bydd y wisg ysgol yn aros yr un fath, ni fydd enw’r ysgol yn newid a bydd Mr Redgrave yn parhau i fod yn bennaeth. Mae ar rieni disgyblion newydd angen gwneud cais fel o’r blaen trwy dîm derbyniadau ysgolion Cyngor Sir Ddinbych.

Cliciwch ar y ddolen i weld yr holl ddogfennau perthnasol ynghylch y penderfyniad hwn.

Cychwyn ymgynghoriad ar Ysgol Iau Llanelwy

Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Anglicanaidd Llanelwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad 7 wythnos ar gynigion i newid Ysgol Iau Esgob Morgan, Llanelwy, o ysgol gymunedol i Ysgol Eglwys yng Nghymru Wedi’i Reoli’n Wirfoddol.

Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i’r cyhoedd gael manylion am y cynigion ac yn gyfle i’r Esgobaeth a’r Cyngor wybod beth yw barn y cyhoedd.   Mae’n gyfle i bobl hefyd gyflwyno syniadau eraill i’w hystyried.

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn dod i ben ar 21 Hydref 2014. Mae’r Ddogfen Ymgynghori a’r ffurflen ymateb ar gael yn adran yr Ysgolion ar wefan yr Esgobaeth, cliciwch yma ac ar adran ‘Addysg – Adolygu ein Hysgolion ar wefan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg yn Sir Ddinbych bod “y cynnig hwn, yn ein barn ni, yn gwella’r cysylltiadau rhwng Ysgol Esgob Morgan a’r Eglwys yng Nghymru.  Mae’n bwysig ein bod yn cael barn rhieni a disgyblion ar y cynigion hyn, p’un ai o blaid neu yn erbyn. ”

Dywedodd Y Gwir Barchedig Dr Gregory Cameron, Esgob Llanelwy: “Mae gan Ysgol Esgob Morgan eisoes gysylltiadau cryf gyda Ysgol Babanod Llanelwy sy’n Ysgol Eglwys yng Nghymru a chyda’r Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy.  Mae Esgobaeth Llanelwy yn ymrwymedig i gefnogi addysg dda yng Nghymru, ac mae’n gyfle gwych am bartneriaeth wrth gefnogi ysgol leol lwyddiannus. ”

EsgobMorgan