Wrth i Sir Ddinbych symud ymlaen â’i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae busnesau lleol yn croesawu’r hwb y mae’r buddsoddiad hwn yn ei olygu iddynt. Gyda’r gwaith adeiladu yn Ysgol Newydd y Rhyl ac Ysgol Gymunedol Bodnant i fod i ddod i ben ym mis Mawrth a Mehefin 2016 ac mae’r gwaith wedi dechrau yn Ysgol Glan Clwyd, mae’r buddsoddiad hwn o bron i £44m yn cael effaith ar ffyniant cwmnïau lleol.
Yn rhan o’r contractau gyda’r cwmnïau adeiladu, mae Sir Ddinbych yn ceisio gwneud y mwyaf o sut mae’r gwaith yn cael ei brynu i sicrhau bod isgontractwyr lleol yn elwa o’r buddsoddiad hwn mewn ysgolion. Mae Willmott Dixon, sy’n rheoli prosiectau Ysgol Newydd y Rhyl a nawr Ysgol Glan Clwyd, wedi dangos ymrwymiad cryf i roi hwb i’r economi leol.
Ar gyfer prosiect Ysgol Newydd y Rhyl, fe wnaethant weithio gyda chwmni ffensio lleol PW Dalimore, sydd wedi’u lleoli ym Mhrestatyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gwaith ar gyfer ar gyfer y ffensys allanol o amgylch y safle am bris cystadleuol. Mae Willmott Dixon yn hapus iawn gyda’r gwaith sydd wedi cael ei wneud ac ar ôl derbyn dyfynbris cystadleuol, mae’r cwmni wedi cael eu dewis i ymgymryd â gwaith tebyg yn Llanelwy.
Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.
Mae’r prosiectau hefyd wedi bod yn gyfle unigryw i bobl fusnes lleol ddychwelyd i’r ysgol. Mae cyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Rhyl, Simon Adams wedi bod yn gweithio ar brosiect Ysgol Newydd y Rhyl. Mae Simon yn Gyfarwyddwr Evadx, a nhw ddarparodd y gwaith dur ar gyfer yr ysgol a bu’n chwarae rhan amlwg yn ystod cyfnod cynnar yr adeilad newydd.
Mae Evadx hefyd wedi cael eu cyflogi i gynhyrchu’r gwaith dur ar gyfer prosiect Ysgol Glan Clwyd. Cynigiodd Evadx gyfle unigryw i ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 fynd draw i safle Evadx ym Mae Cinmel i weld y llinell gynhyrchu gyfan ar gyfer ffrâm yr adeilad newydd. Yn yr un modd mae’r gwaith ar y sylfaeni yn Ysgol Glan Clwyd sy’n cael ei wneud gan Thomas Plant o Dreffynnon wedi golygu bod Lowri Thomas, cyn ddisgybl o Ysgol Glan Clwyd wedi dychwelyd hefyd.
SAMSUNG CAMERA PICTURES
Hyd yma ar brosiect Ysgol Newydd y Rhyl, mae bron i 71% o’r gwariant gydag isgontractwyr wedi bod i gwmnïau o fewn 30 milltir o’r Rhyl, a bydd llawer o’r perthnasau a ddatblygwyd gyda’r gadwyn gyflenwi leol yn parhau i brosiect Ysgol Glan Clwyd. Meddai Brian Hanlon, Rheolwr Adeiladu o Willmott Dixon ar gyfer prosiect Ysgol Glan Clwyd: “Mae defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol i roi hwb i’r economi leol a chynnal swyddi yn rhan annatod o ddull Willmott Dixon o weithio, rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi leol a chynnig hyfforddiant a phrentisiaethau lleol er mwyn darparu gwaddol parhaol ar gyfer yr ardal leol”.
Cwmni o’r enw Reads Construction, sydd wedi’u lleoli ym Mrymbo ger Wrecsam sydd yn ymgymryd â’r gwaith yn Ysgol Gymunedol Bodnant. Maent wedi dangos ymrwymiad i wariant lleol hyd yn hyn, ac mae 78.5% o’r gwariant gydag isgontractwyr wedi bod i gwmnïau o fewn 40 milltir o Brestatyn, gydag isgontractwyr megis G.J Teeson Ltd, Bagillt Brick a Pro Scaff-Contractors Ltd gweithio ar y safle. Mae Reads Construction hefyd wedi darparu 33 wythnos o leoliad gwaith yn eu cwmni eu hunain ac wedi darparu 54 wythnos o leoliad gwaith o fewn y gadwyn gyflenwi isgontractwyr.
Dywedodd Hugh Evans Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd Economi: “Rwyf wrth fy modd gyda’r buddsoddiad yn ein hysgolion a’r hwb y mae’n ei olygu i’r economi leol. Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau modern, cyfoes i’n plant a’n pobl ifanc a fydd yn eu tro, yn eu helpu i wireddu eu llawn botensial. Gyda’r cynigion i adeiladu ysgol newydd yn Rhuthun, mae’n bwysig parhau i weithio gyda chontractwyr lleol i barhau i gyfrannu at yr economi leol.”
Hoffi hwn:
Hoffi Llwytho...