Roedd dathliad yn Ysgol Gymunedol Bodnant ym Mhrestatyn yn ddiweddar pan agorwyd yr estyniad newydd yn swyddogol.
Y Cynghorydd Davies, Cadeirydd Sir Ddinbych a Gwyn Bartley Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn a agorodd yr estyniad newydd gwerth £3.5miliwn a phrosiect adnewyddu yn swyddogol, a bydd yr estyniad yn galluogi’r babanod ymuno â’r disgyblion iau ar yr un safle.
Mae gan yr estyniad 7 ystafell ddosbarth, neuadd, ystafell gymunedol a derbynfa a swyddfeydd newydd. Hefyd mae yna faes parcio newydd i staff ac ymwelwyr gyda mynediad o Ffordd Parc Bodnant. Fel rhan o’r prosiect cafodd yr adeilad presennol ei ailwampio hefyd.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu’n gyfartal gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg.
Dywedodd Helen Vernon, Pennaeth Bodnant: “Mae’r plant yn ffodus iawn o gael adeilad pwrpasol sydd wedi ei ddylunio i gymhwyso llawer iawn o weithgareddau. Roedd y plant hefyd yn ffodus o gael tîm o athrawon ymroddgar, pob un yn dangos yn eu ffordd eu hunain enghreifftiau o garedigrwydd, gofal a bod yn feddylgar lle byddant yn meithrin ac yn addysgu.”
“Rwy’n ddiolchgar am y cyllid gan Raglen Ysgolion y 21ain ganrif Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, a’r mewnbwn gwerthfawr gan ein hawdurdod lleol i’r prosiect arbennig hwn, a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein breuddwydion”.