Mae disgyblion a staff wedi mwynhau tymor cyntaf llwyddiannus yn eu hysgol newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl. Bu i’r ysgol, a agorodd ym mis Medi, gymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones ac yn rhan o ddarpariaeth Esgobaeth Wrecsam ac yn cymhwyso 420 disgybl llawn amser 3-11 oed, a 500 o ddisgyblion 11-16 oed.
Dywedodd y Pennaeth, Amanda Preston “Rydym wedi cael tymor cyntaf gwych yn ein hysgol newydd. Mae’r holl blant yn yr ysgol gynradd ac uwchradd wedi setlo’n dda. Rydym wedi cael nifer o ymwelwyr i’n hysgol a llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi cael croeso cynnes ac awyrgylch croesawgar o amgylch yr ysgol. Mae’n braf gweld y plant hŷn yn cefnogi’r rhai iau yn yr ystafell ddosbarth ac ar dripiau’r ysgol”
Mae’r disgyblion hefyd yn mwynhau’r ysgol newydd, dywedodd disgybl Blwyddyn 11 “Rwyf wrth fy modd yn helpu a chefnogi’r plant iau gan rwyf yn gobeithio gallu gweithio mewn meithrinfa ar ôl gadael yr ysgol” Mae’r ysgol is yn manteisio o’r cyfleusterau newydd gwych ac mae’r disgyblion yn dweud “Y peth gorau am ein hysgol newydd yw cael gwersi yn yr ysgol uchaf, rwyf wedi mwynhau cael gwersi gwyddoniaeth yn y labordai gwyddoniaeth.”
Mae Ysgol Mair ac Ysgol Y Bendigaid Edward Jones wedi cael eu dymchwel i gyd erbyn hyn, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y ffocws ar y gwaith tirlunio mannau chwaraeon a chwarae, ynghyd â ffurfio’r maes parcio parhaol ar Ffordd Cefndy. Bydd y cam hwn o’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill 2020.
Ariennir y prosiect mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.