Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael gwobr a gymeradwyir yn uchel mewn gwobrau adeiladu ledled Cymru.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r Cyngor yng nghategori Cleient y Flwyddyn yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, am ei waith partneriaeth gyda Keir Construction, yn Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2019, ac mae’n gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, ac fe gafodd ei hariannu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Mae Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn dathlu arfer orau yn y diwydiant adeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn falch o fod wedi cael y wobr yma a gymeradwyir yn fawr, yng nghategori Cleient y Flwyddyn.
“Mae hyn yn tynnu sylw at y gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor a Keir Construction, sydd wedi sicrhau bod Ysgol Gatholig Crist y Gair wedi rhoi amgylchedd dysgu gwych i ddisgyblion.”
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Wrth ddarparu’r prosiectau ar gyfer Ysgolion yr 21ain ganrif, mae’r tîm yn Sir Ddinbych wedi datblygu perthnasau gwaith rhagorol gyda chontractwyr lleol a chenedlaethol fel ei gilydd, i sicrhau y cyflawnir gwerth llawn er budd ysgolion a’r gadwyn gyflenwi leol.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn haeddiannol iawn.”