Mae wedi bod yn hanner tymor prysur wrth i Ysgol Gatholig Crist y Gair agor ei drysau i ddisgyblion ar y 6ed o Fedi. Mae’r ysgol newydd wedi disodli ysgol gynradd Ysgol Mair ac ysgol uwchradd Gatholig Bendigedig Edward Jones a bydd yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion amser llawn rhwng 3-11 a 500 o ddisgyblion 11-16 oed.
Mae staff a disgyblion yn ymgartrefu’n dda i’w cartref newydd wrth i gam nesaf y prosiect fynd rhagddo gyda dymchwel adeiladau Ysgol Mair ac Bendigedig Edward Jones yn dod yn eu blaenau yn dda.
Bydd y dymchwel yn parhau am yr wythnosau nesaf ac yna bydd y ffocws ar dirlunio’r ardaloedd chwaraeon / chwarae. Disgwylir y bydd y cam hwn wedi’i gwblhau erbyn Ebrill 2020.
Ariennir yr ysgol newydd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.