Mae gwaith galluogi wedi eu cwblhau gan Kier Construction ar safle yr ysgol newydd 3-16 Catholig yn y Rhyl sydd yn agor y ffordd i’r prif waith adeiladu ddechrau yn Mehefin. Mae’r lluniau isod yn dangos y cynnydd ar y safle a mae palisau wedi eu codi rhwng Ysgol Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones.
Bydd yr Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n agos â’r ddwy ysgol i reoli’r cam hwn o’r prosiect er mwyn sicrhau fod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n ymarferol bosib ar y disgyblion.
Mae disgyblion Ysgol Gatholig y Santes Fair wedi croesawu Rheolwr y Prosiect Martin Walsh o Kier Construction ynghyd a Kieran, mascot Iechyd a diogelwch y cwmni i drafod iechyd a diogelwch ar safle adeiladu.
Bu i ddisgyblion o flynyddoedd 3,4,5 a 6 wedi gwrando ar gyflwyniad gan Martin a oedd wedi adnabod nifer o agweddau diogelwch ar safle adeiladu byw. Cafodd disgyblion y cyfle i holi Kieran a Martin gyda unrhyw gwestiynau ynglŷn a’r prosiect.
Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.
Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.