Mae carreg filltir arbennig wedi’i chyrraedd yn hanes Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy wrth i adeilad newydd sbon yr ysgol gael ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Ymwelodd y Prif Weinidog â’r safle heddiw (dydd Iau) i weld canlyniadau’r prosiect gwerth £16.7 miliwn a ariannwyd ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Agorwyd y cymal cyntaf, sef adeilad newydd sbon i ddisgyblion ym mis Ionawr 2017 ac fe gwblhawyd y gwaith i ailwampio hen adeiladau’r ysgol ar ddiwedd 2017.
Dyweddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC: “Mae’n braf cael dod i Ysgol Glan Clwyd i agor y cyfleusterau newydd yma yn swyddogol. Bydd yr adnoddau newydd ardderchog hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i staff a disgyblion. Rwy’n falch o weld yr effaith bositif y mae ein Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn ei chael ar gymunedau ledled Cymru ac mae’n dangos pa mor bwysig yw buddsoddi yn ein seilwaith addysg. Wrth gwrs bydd hyn yn parhau ac mae £2.3 biliwn eisoes wedi’i gyhoeddi ar gyfer cam nesaf y rhaglen.
“Dymunaf bob llwyddiant i ddisgyblion a staff Ysgol Glan Clwyd yn eu cyfleusterau rhagorol newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Blant a Phobl Ifanc, Addysg a’r Gymraeg: “Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol hanesyddol gan mai hon oedd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru gyfan a thros y blynyddoedd mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae wedi bod mor llwyddiannus nes bod lefel y galw wedi mynd yn uwch na’r lle a oedd ar gael yn yr hen ysgol ac roedd gwir angen mwy o le i ymdopi â’r galw.
“Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo’n gadarn i’w flaenoriaethau corfforaethol i ddarparu’r dechrau gorau i blant a phobl ifanc ac mae’r disgyblion presennol yn derbyn eu haddysg mewn amgylchedd modern sy’n addas i’r diben ac i’r 21ain Ganrif a bydd miloedd o blant o ogledd Sir Ddinbych a chymunedau cyfagos yn elwa o addysg ar y safle ardderchog hwn am genedlaethau i ddod.
“Mae ymestyn ac ailwampio Ysgol Glan Clwyd yn un o’n prosiectau blaenllaw ac rydym yn hynod o falch o’r ffaith y bydd plant yn ein cymunedau yn elwa o gyfleusterau mor wych yn y dyfodol”.
Dywedodd y Pennaeth Bethan Cartwright: “Mae hwn yn achlysur mawreddog i ni yma yn Ysgol Glan Clwyd ac rydym wrth ein boddau â’r canlyniadau.
“Mae’r estyniad newydd wedi darparu mwy o le addysgu yr oedd gwir ei angen ac mae yna ymdeimlad modern yn ein hamgylchedd dysgu newydd. Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiad hwn yn tyfu o sylfeini i mewn i’r cyfleuster gwych hwn a fydd yn sicr yn cyfoethogi profiadau ein dysgwyr.
“Mae ymateb y disgyblion wedi bod yn anhygoel”.