Mae’r Ysgol Gatholig 3-16 newydd yn y Rhyl wedi symud gam yn nes wrth i ganiatâd cynllunio gael ei roi i adeiladu’r ysgol newydd a gwneud gwaith cysylltiedig ar y safle. Daeth disgyblion o Ysgol Mair ac Ysgol Y Bendigaid Edward Jones (yn y llun) at ei gilydd i ddathlu’r newyddion hwn a fydd yn golygu y byddant yn dechrau cael eu haddysgu mewn cyfleusterau newydd sbon ym mlwyddyn academaidd 2019/2020. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae hyn yn adlewyrchu blaenoriaeth y Cyngor i fuddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc y sir.
Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.
Mae cwmni adeiladu Kier wedi cael ei benodi i fod yn brif gontractwr ac mae gwaith dechreuol eisoes yn digwydd yn yr ysgolion sef gwaith torri coed hanfodol a chyfyngedig a dymchwel rhan o floc Ysgol Y Bendigaid Edward Jones.
Disgwylir i waith ddechrau ar y safle cyfan ym mis Mai a disgwylir i’r adeilad newydd fod yn barod erbyn Hydref 2019.