Mae dyluniadau manwl ar gyfer yr ysgol newydd sbon yng Nghlocaenog yn cael eu llunio ar hyn o bryd.
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi cymeradwyo codi adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn gweithredu ar ddau safle; yng Nghlocaenog a Chyffylliog.
Mae staff a chynrychiolwyr yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda’r tîm prosiect i ddatblygu’r dyluniadau cychwynnol ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddyluniadau mewnol yr adeilad.
Bydd y dyluniadau terfynol yn cael eu cymeradwyo yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn y gwanwyn.
Wynne Construction yw’r prif gontractwr i ddatblygu’r ysgol a’r cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Meddai’r Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer adeilad newydd Ysgol Carreg Emlyn ac rwyf yn falch o glywed bod y gwaith cynllunio’n mynd rhagddo’n dda.
“Mae’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi i gael amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych. Mae llawer iawn o fuddsoddi wedi bod drwy’r rhaglen gyfalaf a bydd hynny’n caniatáu i’n plant ni gael gwell amgylchedd i ddysgu. Mae datblygiad Carreg Emlyn yn un o gyfres o adeiladau newydd arfaethedig yn Sir Ddinbych, ac rwyf yn siŵr y bydd cymunedau Clocaenog a Chyffylliog a’r fro wrth eu bodd gyda’r adeilad newydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at gyfnod prysur iawn wrth i’r cynlluniau gael eu rhoi ar waith i godi adeilad ysgol newydd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.”
Rhagwelir y bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau erbyn gwanwyn 2019.