Mae’r cyffyrddiadau olaf yn cael eu gwneud cyn trosglwyddo’r cam nesaf o’r gwaith adnewyddu Ysgol Glan Clwyd mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor ysgol newydd.
Dyma luniau o ymweliad safle diweddar.
Mae’r gwaith o adnewyddu bloc Fictoraidd bellach yn agos at ei gwblhau. Bydd cam olaf y prosiect yn cynnwys cwblhau’r tirlunio, cyfleusterau bws a meysydd parcio ynghyd â chyfleusterau hamdden a bydd y rhain yn cael eu cwblhau dros y misoedd nesaf cyn cwblhau’r prosiect yng nghanol mis Tachwedd.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif