Yn y digwyddiad dymchwel diweddar yn Ysgol Glan Clwyd, gwnaethom wahodd ein haelod mwyaf newydd o’r tîm, Kieran, i’r digwyddiad. Dyma sut hwyl gafodd o!!!
Fel aelod mwyaf newydd y tîm, cefais gyfle i fynychu digwyddiad dymchwel a thaith yn Ysgol Glan Clwyd fel rhan o waith ailwampio ar raddfa fawr. Pwrpas yr ymweliad hwn oedd gweld sut mae gwahanol rannau o’r tîm Cymorth Addysg yn gweithredu.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif ac Addysg.
Roedd nifer o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys staff a disgyblion Ysgol Glan Clwyd, Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych, Aelodau etholedig, Aelodau’r Cyngor Dinas, yr AS Chris Ruane a rheolwr Adeiladu Willmott Dixon, Brian Hanlon. Cawsom ein tywys o amgylch yr ysgol i weld cam olaf y dymchwel a oedd yn digwydd, a chawsom weld y peiriannau a ddefnyddir i dorri’r adeilad i lawr yn gyflym a chywir.
Yna es am daith o amgylch cam olaf y gwaith ailwampio sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Wrth i chi gerdded o amgylch cam olaf y gwaith ailwampio, gallwch weld y tu mewn yn dechrau dod i drefn yn enwedig i fyny’r grisiau lle roedd contractwyr yng nghamau olaf y gwaith ailwampio, gan fod carpedi yn barod i gael eu gosod ac roedd gridiau’r nenfwd yn cael eu rhoi yn eu lle. Yn ystod y daith, dangoswyd i ni hefyd beth yw’r coridor hiraf yng Ngogledd Cymru o bosibl, yn ymestyn bron hyd cyfan yr ysgol, sef tua 100 metr!!!!! Roedd pennaeth Ysgol Glan Clwyd gyda ni ar y daith, a olygodd ein bod yn cael cipolwg gwell o’r gosodiad lle byddai desgiau a chadeiriau yn cael eu rhoi pan fydd y gwaith ailwampio wedi’i gwblhau.
Mae’r prif gontractwr, Wilmott Dixon, yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn esmwyth gan achosi cyn lleied o amhariad ag sy’n bosibl. Bu nifer fawr o isgontractwyr lleol yn ymwneud â’r prosiect hwn, sy’n helpu i roi hwb i’r economi leol. Bu cyfleoedd i ddisgyblion wneud profiad gwaith ar y prosiect hefyd, ac mae hyn wedi arwain at gyfleoedd am swyddi, fel prentisiaethau.
Gwnes fwynhau’r digwyddiad yn fawr. Roedd y trosglwyddo o’r hen adeilad i’r estyniad newydd tra’r oeddem ar y daith yn ddi-dor. Bydd gan y disgyblion gyfleuster gwych pan fydd gwaith wedi’i gwblhau a bydd yr ysgol yn ailagor ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi. Roedd y profiad yn ddefnyddiol iawn i ganiatáu i mi weld beth mae’r tîm Moderneiddio addysg yn ei wneud, a sut mae’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg yn cyfrannu at sicrhau bod adeiladau ysgolion yn addas ar gyfer addysg yn y 21ain Ganrif.
Kieran Smith, Prentis Modern, Addysg a Gwasanaethau Plant