Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori cyn cynllunio ar 26ed Mehefin 2017 yn Neuadd Eleanor, Llanfair DC. Roedd rhieni, staff, disgyblion a phreswylwyr yn bresennol i weld y cynlluniau arfaethedig a darparu adborth cyn i’r cais terfynol cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y prosiect hwn yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Gyfalaf Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Gweler y delwedd isod o’r cynllun arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd:
Mae’r holl ddogfennau perthnasol ar gael i’w gweld ar y tudalennau ymgynghori ar wefan Sir Ddinbych drwy gydol y cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 16 Orffennaf 2017.