Mae’r cyfnod ymgynghori cyn-cynllunio wedi dechrau heddiw ar gyfer y cynllun arfaethedig i adeiladu adeilad ysgol newydd, ar safle newydd, ym mhentref Llanfair Dyffryn Clwyd i ddisodli adeilad ysgol presennol Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd. Byddai’r ysgol newydd arfaethedig yn ysgol Categori 2 (dwyieithog) Gwirfoddol a Reolir ar gyfer 126 o ddisgyblion llawn amser 3-11 oed. Bwriedir i’r prosiect gael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.
Mae’r holl ddogfennau mewn perthynas â’r cynnig drafft ar gael i’w gweld ar y tudalennau ymgynghori ar wefan Sir Ddinbych (www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau). Bydd copïau o’r holl ddogfennau hefyd ar gael i’w gweld fel copi papur yn Eglwys Sant Cynfarch a’r Santes Fair yn Llanfair Dyffryn Clwyd.
Mae digwyddiad ymgynghori cyn-cynllunio wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mehefin 2017 yn Neuadd Eleanor yn Llanfair Dyffryn Clwyd (am fanylion llawn edrychwch ar ein tudalen digwyddiad ar wefan Sir Ddinbych yn www.sirddinbych.gov.uk/digwyddiadau).
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyn-cynllunio hwn yw 16 Gorffennaf 2017 .