Mae’r gwaith yn parhau ar ailwampio’r adeilad cyfredol ar safle Ysgol Glan Clwyd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r prosiect sydd yn cael ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
Mae’r contractwr Willmott Dixon ar hyn o bryd yn ymgymryd a ailwampio’r bloc fictoraidd a bloc Oriel yr ysgol. Mae cynnydd sylweddol wedi ei gyflawni yn ystod y mis diwethaf gyda’r dosbarthiadau yn cael eu hailwampio ar gwaith o ffurfio coridor newydd yn tynnu at ei derfyn. Trosglwyddwyd rhan o’r adeilad yn ôl i’r ysgol ar ddechrau mis Mai a disgwylir i ran arall o’r adeilad gael ei drosglwyddo i’r ysgol ar ddiwedd mis Mehefin.
Dyma luniau o ein ymweliad diweddaraf: