Ffrâm ddur yn cael ei godi ar safle Glasdir

Mae’r gwaith o godi ffrâm ddur ar safle datblygiad newydd sbon ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yng Nglasdir, Rhuthun wedi dechrau.

Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

Y ffrâm gyntaf i’w chodi ydi neuadd newydd Ysgol Stryd y Rhos a mae’n dynodi carreg filltir bwysig yn y prosiect. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r gwaith ar y sylfeini wedi parhau gyda tirlunio yn cymryd lle i greu llwybr cerdded dros glawdd pridd newydd i gysylltu’r ysgolion a’r ffordd gyfagos.

Dros yr wythnosau nesaf bydd yr adeiladau newydd yn ymddangos a bydd yn bosib cael gweld sut y bydd y strwythur newydd yn edrych. Bydd mwy o ddiweddariadau yn ymddangos ar y blog hwn.

Edrychwch ar y lluniau isod i weld sut mae pethau yn dod yn eu blaen:

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s