Mae’r gwaith yn parhau i ailwampio’r adeiladau cyfredol sydd yn cael eu cadw yn Ysgol Glan Clwyd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r prosiect sydd yn cael ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy eu Rhaglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg 21ain ganrif.
Mae’r contractwr Willmott Dixon ar hyn o bryd yn ailwampio yr hen floc fictorianaidd a bloc Oriel yn yr ysgol. Rhan o’r gwaith hwn ydi gwella’r cysylltiad a mae coridor yn cael ei fewnosod ar y llawr cyntaf rhwng y ddau.