Mae myfyriwr wedi bod yn creu gyrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cael ei ysbrydoli ar ymweliad ysgol.
Aeth cyn-ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Morgan Davies, i ymweld â’r cwmni trin dur, Evadx, yn rhan o gyfres o dripiau addysgiadol cyn adeiladu estyniad gwerth £16 miliwn yn yr ysgol, a gwblhawyd yn gynharach eleni.
Cydariannwyd yr estyniad gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen, Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan benodi Willmott Dixon drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.
Hyd yma, mae 85% o’r gwariant caffael gwerth £16 miliwn wedi’i wario â busnesau sydd o fewn 30 milltir i’r ysgol.
Mae’r ymweliadau’n rhan o raglen gydweithio ehangach rhwng awdurdodau lleol a chontractwyr partner ledled gogledd Cymru i hyrwyddo’r diwydiant adeiladu fel gyrfa.
Wrth ymweld ag Evadx, gofynnodd Morgan, o Brestatyn, am gael ei ystyried i ddod at y cwmni o Fae Cinmel ar brofiad gwaith. Wedi hynny, cafodd gynnig prentisiaeth yn nhîm y swyddfa ddylunio, yn creu modelau 3D o ddur gan ddefnyddio darluniau penseiri a pheirianwyr.
Dywedodd Morgan, sy’n 17 oed: “Roedd hi’n braf cyfarfod staff cyfeillgar yn y swyddfa ar yr ymweliad. Roedd cynllunio trwy gymorth cyfrifiadur o ddiddordeb mawr i mi, fel y mae peirianneg.
“Rwyf wastad wedi bod yn berson creadigol. Rwy’n dda am dynnu llun ers pan oeddwn i’n iau ac mae’r creadigrwydd hwn yn golygu bod gennyf ddiddordeb yn y ffordd mae pethau’n cael eu creu.
“Astudiais beirianneg yn y TGAU ac mae cynllunio trwy gymorth cyfrifiadur wedi bod o ddiddordeb mawr i mi. Y cyfuniad hwn o ddiddordeb mewn peirianneg, creadigrwydd a hoffter o gynllunio trwy gymorth cyfrifiadur oedd yr union beth roedd Evadx yn ei gynnig i mi.
“Mae fy nheulu’n falch iawn. Er fy mod wedi gwneud yn dda yn y TGAU, rwyf wastad wedi bod yn ddisgybl heriol, yn enwedig yn yr ysgol.
“Cymryd y swydd yw un o’r pethau gorau a wnes i erioed.”
Dywedodd Beth Griffin, cyfarwyddwr gweithrediadau yn Evadx, un o’r is-gontractwyr a benodwyd i weithio ar estyniad yr ysgol: “Mae’n bwysig i bobl ifanc weld y gweithle modern drostyn nhw eu hunain ac rydym wastad yn awyddus i groesawu myfyrwyr i’r ffatri.
“Fe gwblhaodd Morgan ei brofiad gwaith ac roedd yn amlwg mai dyma’r llwybr gyrfa roedd am ei ddilyn.”
Mae Morgan bellach yn gweithio tuag at ystod o gymwysterau ac mae’n treulio peth o’i amser yn hyfforddi yng Ngholeg Stafford.
Mae Sir Ddinbych wedi llunio canllawiau newydd i fusnesau, sydd ar gael ar y wefan, i’w gwneud yn haws i fod yn rhan o’r broses gaffael ac fe all busnesau gofrestru ar-lein i dderbyn diweddariadau awtomatig pan fo contractau ar gael ar dendr.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chaffael, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/gwerthu-ir-cyngor/gwerthu-ir-cyngor.aspx