Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y safle y datblygiad newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Glasdir, Rhuthun. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r dasg o ddod â deunydd i godi lefel y tir ar y safle adeiladu a’r gwaith peilio wedi cael eu cwblhau.
Mae hyn wedi galluogi’r gwaith o gloddio ffosydd sylfaen i ddechrau a mae concrid eisoes wedi dechrau cael ei dywallt ar y safle. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros yr wythnosau nesaf.
Yn ystod cam nesaf y prosiect bydd draeniau mewnol yn cael eu mewnosod, ynghyd â gwaith bloc a colofnau dur fel rhan o’r gwaith i gwblhau’r sylfeini. Bydd y strwythur uwchben y ddaear yn dechrau dod i’r amlwg yn ystod mis Mai.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif.