Roedd gwyliau hanner tymor yn gyfle perffaith i Gynghorwyr, Swyddogion ynghyd ar Aelod Cynulliad Lleol i ymweld ar adeilad newydd sydd yn rhan o brosiect Ysgol Glan Clwyd ac roedd pawb yn hapus iawn gyda’r cynnydd.
Mae’r prosiect wedi ei gyd-gyllido gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif.
Cafodd grŵp o drigolion lleol hefyd y gwahoddiad i weld y gwaith sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar garreg eu drws.
Mae’r ysgolion yn defnyddio’r adeilad newydd ers dechrau mis Ionawr ac mae disgyblion a staff bellach yn gartrefol yn eu cyfleuster newydd.
Parhau mae’r gwaith ar gam cyntaf y gwaith dymchwel ac ailwampio a fydd yn caniatáu i’r ysgol symud i mewn i’r rhan wedi ei ailwampio yn ystod mis Mai.
Bydd rhan olaf y gwaith dymchwel yn cymryd lle dros yr haf gyda’r disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn yr hydref.