Mae gwaith wedi dechrau ar safle datblygiad newydd sbon ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yn Glasdir, Rhuthun.
Dechreuodd Wynne Construction, cwmni o Ogledd Cymru, weithio ar y safle ar y 9fed Ionawr. Mae’r gwaith cychwynnol wedi cynnwys sefydlu’r safle a creu mynediad safle oddi ar ffordd Dinbych a dros yr wythnosau nesaf bydd gwaith tirwedd pellach yn cymryd lle er mwyn codi lefel y tir. Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd dros y misoedd nesaf yn y blog hwn ynglŷn a’r prosiect cyffrous yma.
Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2018.