Blwyddyn newydd, cyfnod newydd i fyfyrwyr Glan Clwyd

Mae myfyrwyr yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy yn croesawu dechrau’r flwyddyn newydd drwy symud i mewn i’r estyniad newydd sbon a adeiladwyd ar dir yr ysgol, gan nodi dechrau pennod newydd sbon yn hanes yr ysgol.

Yr estyniad newydd sbon yw rhan gyntaf prosiect gwerth £15.9 miliwn wedi ei ariannu’n gyfartal gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Dechreuodd Willmott Dixon, y contractwyr ar gyfer y datblygiad, y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Tachwedd 2015.

Mae’r disgyblion yn symud i mewn i’r adeilad newydd ddydd Iau, Ionawr 5,  y diwrnod cyntaf swyddogol yn ôl yn yr ysgol.

Mae gwaith ar y cam nesaf, a fydd yn gweld adeiladau presennol yr ysgol yn cael eu hadnewyddu, yn dechrau’r mis hwn a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg y Cabinet: “Mae’n ddiwrnod hanesyddol i Ysgol Glan Clwyd.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod yn llawn yr angen am ofod gwell ac ychwanegol i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i ddarparu’r cyfleusterau gorau posibl sy’n bodloni safonau modern yr 21ain Ganrif ac yn darparu amgylchedd lle gall ein myfyrwyr ffynnu i gyflawni eu potensial.

“Mae’r estyniad a’r gwaith i adnewyddu Ysgol Glan Clwyd yn un o’n prif brosiectau ac rydym wrth ein bodd y bydd cenedlaethau o blant yn ein cymunedau yn y dyfodol yn elwa o’r fath gyfleusterau gwych”.

Dywedodd y Pennaeth Bethan Cartwright: “Mae hwn yn achlysur pwysig i ni yn Ysgol Glan Clwyd ac rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniadau.

“Mae’r estyniad newydd wedi darparu gofod addysgol oedd ei ddirfawr angen ac mae teimlad modern iawn i’n hamgylchedd dysgu newydd.   Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiad hwn yn tyfu o sylfeini i mewn i’r cyfleuster gwych hwn a fydd yn sicr yn cyfoethogi profiadau ein dysgwyr.

“Mae’r ymateb gan y disgyblion wedi bod yn anhygoel ac rydym yn edrych ymlaen at gam nesaf y gwaith ddechrau o ddifri yn yr wythnosau nesaf.”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s