Wrth i ran gyntaf gwella cyfleusterau yn Ysgol Glan Clwyd ddirwyn i ben, mae Willmott Dixon, y contractwyr ar gyfer y datblygiad, wedi rhyddhau’r gyfres nesaf o fideo treigl amser i arddangos proses adeiladu’r adeilad addysgu newydd.
Mae’r fideo yn dangos cwblhad y gwaith brics, tirlunio o amgylch y bloc addysgu newydd ac yn rhoi cipolwg ar du fewn yr estyniad newydd wrth iddo ddechrau siapio.
Gallwch weld y fideo treigl amser yma:
Bydd y datblygiad gwerth £15.9 miliwn yn ymestyn safle’r ysgol a’i wella, i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw am leoedd, yn ogystal â darparu cyfleusterau newydd, modern. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd Willmott Dixon, y contractwyr ar gyfer y datblygiad, y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Tachwedd 2015. Bydd yr estyniad newydd, sef rhan gyntaf y prosiect, yn cael ei gyflwyno i’r ysgol cyn gwyliau’r Nadolig. Bydd yr ail ran yn cychwyn fis Ionawr 2017, a fydd yn canolbwyntio ar adnewyddu adeiladau presennol yr ysgol, a bydd hynny’n cael ei gwblhau fis Medi 2017.